Ym mha gyfadran rydych chi’n gweithio?
Rwy'n gweithio yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, yn benodol yn yr adran peirianneg fecanyddol; Rwy'n gweithio yn adeilad y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni ar Gampws y Bae.

Beth yw'ch prif faes ymchwil?
Prif ffocws fy ymchwil yw ynni ffrwd lanw – hynny yw, cynhyrchu trydan o cerhyntau llanw gan ddefnyddio dyfeisiau sy'n gweithio ar sail yr un egwyddorion â thyrbinau gwynt, yn hytrach na defnyddio gwahaniaethau rhwng uchderau megis argae neu forlyn llanw. Mae'r cerhyntau llanw sy'n pweru dyfeisiau megis y rhain yn rhagweladwy o ran pryd byddant yn cyrraedd a pha mor gyflym y byddant yn symud, ond mae llawer o amrywiaethau ar wahân i'r ffactorau hyn oherwydd hapamrywiadau tyrfol ac oherwydd gweithrediad tonnau, sy'n llai rhagweladwy. Mae gennyf ddiddordeb mewn mesur faint mae'r tyrfedd a'r tonnau'n dylanwadu ar y cerrynt, a rhagweld sut y byddant yn effeithio ar y tyrbinau.

Pam mae'ch ymchwil yn bwysig?
Rydym eisoes yn gwybod ei bod hi'n bosib cynhyrchu trydan o gerhyntau llanw – mae hyn wedi cael ei wneud yn y DU, yn Ffrainc ac Ynysoedd Ffaro, ac mae oddeutu 10MW o allu ffrwd lanw gweithiol ar hyn o bryd ledled y byd sy'n cyflenwi pŵer i'r grid. Mae gan ynni’r llanw un fantais fawr dros ynni’r gwynt; hynny yw, mae'n llawer mwy rhagweladwy; fodd bynnag, i ddod yn agos at raddfa'r defnydd o ynni’r gwynt rydym wedi'i gweld, mae angen i ni oresgyn her bwysig iawn ym myd peirianneg: mae'n llawer anos defnyddio a chynnal a chadw tyrbin o dan y dŵr nag yn yr awyr!

Golyga hynny, o'i gymharu â thyrbin gwynt, ei bod hi'n werth dylunio tyrbin llanw sy'n fwy cadarn fel bod angen llai o waith cynnal a chadw arno, hyd yn oed os yw hynny'n golygu bod y costau adeiladu cychwynnol yn gymharol ddrutach. Mae'n hollbwysig deall y llwythau sy'n amrywio oherwydd tyrfedd a thonnau er mwyn rhagweld pa mor aml y bydd angen gwneud gwaith cynnal a chadw, a pha gydrannau y bydd angen sylw arnynt yn gyson.

Pa Nod Datblygu Cynaliadwy y mae eich ymchwil yn cyd-fynd yn agosaf ag ef?
Mae fy ymchwil yn cyd-fynd yn dda iawn â Nod Datblygu Cynaliadwy 7 – ynni fforddiadwy a glân. Fodd bynnag, yn enwedig wrth weithio gyda phartneriaid diwydiannol, mae fy ngwaith hefyd yn berthnasol i Nod Datblygu Cynaliadwy 9 – diwydiant, arloesi ac isadeiledd.

Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Rwy'n gobeithio y bydd fy ymchwil yn chwarae rhan wrth hyrwyddo ynni ffrwd lanw fel cyfrannwr sylweddol at gynhyrchu ynni sero net – mae llawer o linynnau y mae angen eu casglu ynghyd er mwyn cyflawni hyn a gall y gwaith rydym yn ei wneud yn Abertawe fod yn rhan bwysig ohono.

A oes elfen drawsddisgyblaethol i’ch ymchwil?  Os felly, pwy arall yn y Brifysgol sy'n ymwneud â'r gwaith?
Mae fy ngwaith fy hun yn ymwneud yn bennaf ag efelychu a dadansoddi data, ond rwy'n gweithio'n agos gydag ymchwilwyr yn y Brifysgol sy'n gwneud mwy o waith yn y maes megis yr Athro Ian Masters neu Dr Tom Lake. Mae llawer o'm cydweithrediadau â meysydd eraill wedi cynnwys cydweithwyr y tu allan i Abertawe.

A oes unrhyw gydweithredwyr allanol eraill yn ymwneud â'r gwaith?
Rwyf wedi gweithio'n helaeth gyda chydweithredwyr y tu allan i Abertawe yn ystod fy ngyrfa, gan gynnwys sefydliadau ymchwil a phartneriaid diwydiannol. Er enghraifft, rwyf wedi gweithio gydag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Normandi a sefydliad ymchwil forol Ffrainc Ifremer i brofi tyrbinau ar raddfa fodel yn ei gafn yn Boulogne; rwyf hefyd wedi gweithio gyda Phrifysgol Algarve i brofi tyrbin ar raddfa chwarter yn y maes ym morlyn Ria Formosa; ac, ar hyn o bryd, rwy'n cydweithio â chydweithredwr o Brifysgol Nagasaki i ddadansoddi adnodd llanw yn Ynysoedd Goto yn ne-orllewin Japan.

Mae rhan fawr o'm gwaith wedi dibynnu ar gysylltiadau da â phartneriaid diwydiannol hefyd; cydweithredu â datblygwyr tyrbinau llanw go iawn yw'r ffordd orau o gasglu data am ddefnyddio ffrwd lanw go iawn ar raddfa lawn.

Beth sydd nesaf ar gyfer eich ymchwil?
Ar hyn o bryd, rwy'n gweithio ar gyfres o gydweithrediadau tymor byr â mentrau lleol i ddatblygu'r gadwyn gyflenwi ar gyfer ynni alltraeth – yn enwedig technoleg gwynt alltraeth arnofiol. Rwyf hefyd yn llunio cynnig i ddefnyddio cwch drôn awtonomaidd i fesur tyrfedd mewn lleoliadau gwahanol o gwmpas safle ffrwd lanw er mwyn ymchwilio i'r cydbwysedd rhwng creu tyrfedd a gwasgaru tyrfedd.

 

Dr Michael Togneri