Ym mha gyfadran rydych chi’n gweithio?
Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg

Beth yw'ch prif faes ymchwil?
Mae fy niddordebau presennol yn cynnwys rheoli a defnyddio systemau cynhyrchu ynni adnewyddadwy ac electroneg pŵer yng nghyd-destun cynhyrchu dosbarthedig, micro-gridiau a systemau ynni clyfar.

Pam mae'ch ymchwil yn bwysig?
Mae ymchwil ym maes rheoli a defnyddio systemau cynhyrchu ynni adnewyddadwy ac electroneg pŵer yn hollbwysig oherwydd y newid cyflym i ffynonellau ynni cynaliadwy a'r defnydd cynyddol o ddyfeisiau electroneg pŵer yn ein bywydau pob dydd. Mae systemau rheoli effeithiol yn hanfodol wrth i systemau ynni adnewyddadwy, cynhyrchu dosbarthedig, micro-gridiau a systemau ynni clyfar ddod yn fwy cyffredin. Y nod yw sicrhau eu sefydlogrwydd, eu dibynadwyedd, eu heffeithlonrwydd a'u safon. Ar ben hynny, mae datblygiadau ym maes electroneg pŵer yn hollbwysig i reoli ansawdd pŵer, lleihau colledion a gwella perfformiad cyffredinol systemau ynni modern. Bydd hyn yn cyfrannu at nodau byd-eang i leihau allyriadau carbon a chyflawni diogelwch ynni.

Mae fy ymchwil wedi arwain at lawer o gyhoeddiadau mewn cyfnodolion uchel eu bri, ac mae bron pob un o'm prosiectau yn cynnwys gwirio arbrofol.

Pa Nod Datblygu Cynaliadwy y mae eich ymchwil yn cyd-fynd yn agosaf ag ef?
Nodau Datblygu Cynaliadwy 7, 9, 11 ac 13.

Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Mae gennyf gymhelliant cryf i drawsnewid y syniadau arloesol a ddatblygwyd drwy gydol fy ngyrfa yn atebion ymarferol ar gyfer technoleg ynni trydanol. Rwy'n canolbwyntio ar ddylunio a rheoli trawsnewidyddion pŵer electronig uwch sy'n gwella ansawdd ac effeithlonrwydd cynhyrchu ynni o ffynonellau adnewyddadwy ond sydd hefyd yn lleihau costau, gan wneud ynni cynaliadwy yn fwy hygyrch ac effeithiol.

A oes elfen drawsddisgyblaethol i’ch ymchwil?  Os felly, pwy arall yn y Brifysgol sy'n ymwneud â'r gwaith?
Rwy'n cydweithredu â'r Grŵp Ymchwil Ynni a Phŵer (EPRG), yn enwedig Dr Meghdad Fazeli, sy'n arbenigo mewn systemau ynni a phŵer, a'r Athro Mike Jennings, Pennaeth yr EPRG sy'n dal Cadair Ymchwil Peirianneg gan yr Academi Frenhinol Peirianneg o'r enw "Lled-ddargludyddion Uwch ar gyfer Cerbydau Trydan". Mae'n arbenigwr ym maes dyfeisiau a chylchedau electroneg pŵer.

A oes unrhyw gydweithredwyr allanol eraill yn ymwneud â'r gwaith?
Rwyf eisoes yn cydweithredu â'r Grid Cenedlaethol, ABB, Siemens a Vishay Intertechnologies.

Beth sydd nesaf ar gyfer eich ymchwil?
Mae camau nesaf fy ymchwil yn cynnwys meithrin cydweithrediadau llawn effaith â phartneriaid diwydiannol er mwyn pontio'r bwlch rhwng arloesi academaidd a defnydd yn y byd go iawn. Rwy'n gobeithio sicrhau cyllid ar gyfer ymchwil bellach sy'n canolbwyntio ar ddatblygu technolegau ynni adnewyddadwy ac electroneg pŵer, yn enwedig yng nghyd-destun cynhyrchu dosbarthedig a systemau ynni clyfar. Yn ogystal, rwy'n bwriadu recriwtio myfyrwyr PhD ac ymchwilwyr ôl-ddoethurol dawnus i greu tîm ymchwil cryf a fydd yn gallu bwrw ymlaen â'r mentrau hyn.

 

Dr Mohammad Monfared