Ym mha gyfadran rydych chi’n gweithio?
Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Beth yw'ch prif faes ymchwil?
Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar ddinasoedd byd-eang, busnes dinasoedd, dyfodol dinasoedd, ac ar gymhwyso athroniaeth gyfandirol ar gyfer deall y byd cyfoes.
Pam mae'ch ymchwil yn bwysig?
Dinasoedd byd-eang, er enghraifft Llundain ac Efrog Newydd, yw dinasoedd cyfoethocaf a phwysicaf y byd ar gyfer busnes rhyngwladol. Mae fy ymchwil yn ymwneud ag atebion i'r heriau, y problemau a'r patholegau y mae Dinasoedd Byd-eang yn eu hwynebu fel mannau canolog ar gyfer globaleiddio. Rwy'n canolbwyntio ar y rhwydweithiau y mae dinasoedd byd-eang yn eu meithrin ac yn cymryd rhan ynddynt; cysylltiadau sy'n rhwymo dinasoedd byd-eang ynghyd ar draws y byd ac yn aml yn goresgyn cyfyngiadau'r system genedl-wladwriaeth - e.e. arweinwyr dinasoedd, yn hytrach nag arweinwyr cenedlaethol, sydd wedi hyrwyddo Cytundeb Paris 2016 drwy eu haelodaeth gydweithredol o rwydweithiau rhyngwladol rhwng dinasoedd ar lefel is-genedlaethol, fel grŵp y dinasoedd C40. Mae'r ffocws hwn ar rwydweithiau dinasoedd byd-eang o bob math yn fy ysgogi wrth addysgu'r pwnc hwn yn ein gradd ôl-raddedig MSc mewn Cymdeithas, yr Amgylchedd a Newid Byd-eang, ac mae'n gysylltiedig â'm gwaith goruchwylio myfyrwyr PhD sy'n gweithio ar brosiectau dinasoedd iach, craff a chynaliadwy: ar ddinasoedd fel NEOM a Medina yn Saudi Arabia, a Bryste ac Abertawe yn y DU.
Pa Nod Datblygu Cynaliadwy y mae eich ymchwil yn cyd-fynd yn agosaf ag ef?
Nod Datblygu Cynaliadwy 11 - Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy
Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Yn 2016 es i i Gynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Dai a Datblygu Trefol Cynaliadwy yn Quito, Ecuador (17 - 20 Hydref) a lansiodd 'Agenda Drefol Newydd' i hyrwyddo Nod Datblygu Cynaliadwy 11 y Cenhedloedd Unedig - Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy. Yn Quito roedd yn amlwg bod y nod o wneud dinasoedd yn gynaliadwy ar gyfer byd carbon-niwtral yn arbennig o bwysig yn ninasoedd byd-eang mwyaf blaenllaw'r byd yn yr economïau mwyaf datblygedig. Dyma pam mae un ffocws fy ymchwil yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod ar ddwy o nodweddion amlwg yr amgylchedd adeiledig sy'n diffinio llwyddiant gweithredol dinasoedd byd-eang a chanolfannau ariannol mwyaf blaenllaw'r byd: eiddo tirol moethus ac yn benodol nendyrau preswyl a rhai sy'n cynnwys swyddfeydd mewn dinasoedd byd-eang. Mae deall yr hyn sy'n digwydd ynglŷn â'r ddwy agwedd hon ar ddinasoedd byd-eang yn elfen bwysig, ond nid mor amlwg, wrth helpu i gyflawni nod uchelgeisiol y Cenhedloedd Unedig oherwydd bod y ddwy ohonynt mor gostus o ran allyriadau carbon corfforedig a gweithredol.
A oes elfen drawsddisgyblaethol i’ch ymchwil? Os felly, pwy arall yn y Brifysgol sy'n ymwneud â'r gwaith?
Dim hyd yn hyn.
A oes unrhyw gydweithredwyr allanol eraill yn ymwneud â'r gwaith?
Nac oes, ond fel Cyfarwyddwr Canolfan Damcaniaeth Drefol (CUT) y Brifysgol rwy'n croesawu pob mynegiant o ddiddordeb gan unrhyw un sy'n ymchwilio i ddinasoedd a bywyd trefol, boed yn Abertawe neu’n rhywle arall.
Beth sydd nesaf ar gyfer eich ymchwil?
Mae gen i ddiddordeb yn nyfodol nendyrau ar ôl pandemig Covid-19. Ymchwil a gyhoeddwyd o'r blaen yw'r sail ar gyfer astudiaethau damcaniaethol ac empirig o’r galw newidiol am nendyrau a'r defnydd newidiol ohonynt yn ardaloedd busnes canolog ac ardaloedd ariannol dinasoedd byd-eang. Bydd gwybod a rhagweld y galw am nendyrau a'r defnydd ohonynt ar draws rhwydweithiau cwmnïau byd-eang y byd yn galluogi dealltwriaeth o sut mae dinasoedd byd-eang yn gweithio, a sut byddant yn gweithio yn y dyfodol, drwy nendyrau. Mae hyn yn bwysig am resymau sy'n amrywio o gynllunio ardaloedd busnes canolog ac ardaloedd ariannol i reoli a chanfod atebion i'r allyriadau carbon corfforedig a gweithredol o ganlyniad i nendyrau.