Dr Spencer Jeffs
Ym mha gyfadran rydych chi’n gweithio?
Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Beth yw'ch prif faes ymchwil?
Mae fy niddordebau ymchwil yn cyd-fynd yn bennaf â nodweddu sylfaenol deunyddiau tymheredd uchel, yn enwedig ymchwilio i gyfansoddion matrics seramig (CMCs) sy'n cysylltu perthnasoedd prosesu-microstrwythur-priodoleddau. Cynhelir ymchwil gan ddefnyddio ystod o dechnegau arbrofol, dadansoddi a chyfrifiannol datblygedig gan gynnwys profion mecanyddol ar raddfa fach, microsgopeg electronau a CT pelydr-X ochr yn ochr â chydweithio'n agos â phartneriaid diwydiannol ac academaidd.
Pam mae'ch ymchwil yn bwysig?
Mae dealltwriaeth gynhwysfawr o berfformiad CMCs ar dymheredd uchel ac mewn amgylcheddau ymosodol yn alluogwr allweddol ar gyfer gwella dyluniadau, gweithrediad ac effeithlonrwydd mewn cymwysiadau fel tyrbinau nwy ac adweithyddion ymasiad/ymholltiad niwclear.
Pa Nod Datblygu Cynaliadwy y mae eich ymchwil yn cyd-fynd yn agosaf ag ef?
7 - Ynni fforddiadwy a glân
9 – Diwydiant, Arloesedd ac Isadeiledd
Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Y nod cyffredinol yw datblygu galluoedd unigryw mewn profi a dadansoddi ar dymheredd uchel mewn amrywiaeth o amgylcheddau sy'n berthnasol i gymhwysiad deunydd dymunol, y gallai ystod o ddiwydiannau fanteisio arnynt (e.e., awyrofod, niwclear, gofod).
A oes elfen drawsddisgyblaethol i’ch ymchwil? Os felly, pwy arall yn y Brifysgol sy'n ymwneud â'r gwaith?
Cynhelir ymchwil yn y Sefydliad Deunyddiau Strwythurol (ISM), sy'n rhan o'r Sefydliad Ymchwil Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2RI).