Ym mha gyfadran rydych chi’n gweithio?
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol

Beth yw'ch prif faes ymchwil?
Rwy'n canolbwyntio ar sawl maes ymchwil ar hyn o bryd. Mae un yn ymwneud â dulliau arloesol o reoli dŵr sy'n defnyddio doethineb esblygiadol byd natur i ddatblygu a llywio casglwyr lleithder o'r awyr. Gallai'r maes hwn o fio-ddynwarededd helpu gyda strategaethau newid yn yr hinsawdd i ddefnyddio a chyflwyno cynhyrchion a ysbrydolir gan fioleg yn y maes mewn rhanbarthau cras a lletgras. Ar ben hynny, rwy'n cynnal ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial a'i gymwysiadau amrywiol a'i fabwysiadu mewn sectorau gwahanol.

Pam mae'ch ymchwil yn bwysig?
Gallai'r maes hwn o fio-ddynwarededd helpu gyda strategaethau newid yn yr hinsawdd i ddefnyddio a chyflwyno cynhyrchion a ysbrydolir gan fioleg yn y maes mewn rhanbarthau cras a lletgras.

Pa Nod Datblygu Cynaliadwy y mae eich ymchwil yn cyd-fynd yn agosaf ag ef?
Nod Datblygu Cynaliadwy 13 yw'r un sy'n cyn-fynd  agosaf â'm hymchwil oherwydd ei fod yn canolbwyntio ar weithredu ar newid yn yr hinsawdd i leihau'r effeithiau negyddol o ran rheoli dŵr.

Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Gallai canfyddiadau fy ymchwil gynorthwyo wrth fwyafu effeithlonrwydd arwynebau casglu dŵr goddefol wrth ystyried gwlith, niwl a dŵr glaw. Yna, byddai hyn yn cyfrannu at wella casglwyr dŵr gweithredol (er enghraifft lle byddai'r arwyneb yn cael ei oeri'n artiffisial).

A oes elfen drawsddisgyblaethol i’ch ymchwil?  Os felly, pwy arall yn y Brifysgol sy'n ymwneud â'r gwaith?
Oes, mae'n cynnwys strategaethau rheoli dŵr sy'n defnyddio arwynebau sydd wedi cael eu cynhyrchu ac sy'n dyblygu strwythurau'r arwynebau a welir ar rywogaeth o gactws a elwir yn Copiapoa cinerea (sy'n byw mewn rhanbarthau cras a lletgras). Yna, caiff yr arwynebau hyn eu profi yn y maes ac yn y labordy dan amodau amgylcheddol a reolir. Felly, mae'r gwaith hwn yn cynnwys elfen drawsddisgyblaethol gyda chydweithwyr o'r Ysgol Reolaeth, yr Ysgol Feddygaeth a'r Ysgol Beirianneg (yng Nghanolfan Argraffu a Chaenu Cymru a'r Ganolfan Nanoiechyd).

A oes unrhyw gydweithredwyr allanol yn ymwneud â'r gwaith?
Oes, mae nifer o gydweithredwyr allanol wedi cymryd rhan yn y prosiect hwn dros y blynyddoedd – sef cwmni preifat o'r enw Lifescaped, Prifysgol Rhydychen, Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) ac Ecole Superieure De Physique et De Chimie Industrielles (ESPCI).

Beth sydd nesaf ar gyfer eich ymchwil?
Ar hyn o bryd, rwy'n ymchwilio i ficrostrwythurau ar arwyneb cacti i benderfynu a ydynt yn gwella'r broses o gasglu lleithder o'r awyr yn gyfeiriadol.

Dr Tegwen Malik