Ym mha gyfadran rydych chi’n gweithio?
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol

Beth yw'ch prif faes ymchwil?
Rwy'n gweithio ar draws disgyblaethau SHAPE. Cyhyd â bod gan y gwaith ymchwil elfen sy’n seiliedig ar leoliad a/neu a arweinir gan y gymuned, gall ein tîm ymchwil a gwasanaethau proffesiynol yn y Swyddfa Ymchwil Heriau Lleol fod yn rhan ohono.

Pam mae'ch ymchwil yn bwysig?
Mae llawer o wasanaethau cyhoeddus a darparwyr cyllid yn symud tuag at ganolbwyntio ar le, gan sylweddoli bod llawer o'r atebion i heriau lleol yn ymwneud ag ymgysylltu â dinasyddion yn hytrach na chynllunio corfforaethol.  Mae ein tîm yn gweithio i ganfod ffyrdd i ymchwil fod yn rhan o'r symudiad hwn, os nad ei arwain.

Pa Nod Datblygu Cynaliadwy y mae eich ymchwil yn cyd-fynd yn agosaf ag ef?
11 - Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy

Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Newid lleol ac adfywio a arweinir neu a gyfeirir gan grwpiau cymunedol lleol; archwilio rolau addysg uwch, yn enwedig ymchwil, wrth hyrwyddo gwaith grymuso dinesig a chyfranogiad effeithiol.

A oes elfen drawsddisgyblaethol i’ch ymchwil?  Os felly, pwy arall yn y Brifysgol sy'n ymwneud â'r gwaith?

Mae ein gwaith yn seiliedig ar her yn hytrach nag ar ddisgyblaeth. Rydym yn ceisio dod ag arbenigedd ynghyd sy'n berthnasol i bob her rydym yn dod ar ei thraws.

Ar hyn o bryd, mae ein prosiectau'n cynnwys elfennau o economeg, treftadaeth ac addysg.

A oes unrhyw gydweithredwyr allanol eraill yn ymwneud â'r gwaith?
Wrth gwrs! Ethos cyfan ein hymagwedd yw cael ein harwain gan lais y gymuned ac ymgysylltu â phartneriaethau rhanbarthol. Rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid yn ne-orllewin Cymru, o gyrff rhanbarthol fel y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i grwpiau cymunedol.

Beth sydd nesaf ar gyfer eich ymchwil?
Rydym wrthi'n gweithio gyda grwpiau treftadaeth gymunedol ar brosiect cyffrous sy'n archwilio'r berthynas rhwng adfywio cymunedau ar lawr gwlad a chynghorau lleol.