Ym mha gyfadran rydych chi’n gweithio?
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Beth yw'ch prif faes ymchwil?
Cyfraith amgylcheddol
Pam y mae'ch ymchwil yn bwysig?
Mae fy ymchwil bresennol yn canolbwyntio'n bennaf ar reoli tir yn gynaliadwy yng Nghymru. Yn ogystal â chyhoeddi deunydd ar y pwnc hwn mewn llyfrau a chyfnodolion, rwyf hefyd yn treulio llawer o amser yn cyfathrebu â sefydliadau llywodraethol yng Nghymru i gynyddu effaith fy ymchwil. Er enghraifft, daliais i Gymrodoriaeth gyda'r Senedd ac rwyf wedi cyfrannu at waith ymgynghori ar gyfer Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru.
Pa Nod Datblygu Cynaliadwy y mae eich ymchwil yn cyd-fynd yn agosaf ag ef?Dechreuais i fy ngyrfa ymchwil bron 30 mlynedd yn ôl drwy astudio am PhD a ystyriodd sut rhoddwyd Agenda Leol 21 ar waith yn Lloegr. Rwyf wedi bod yn cadw llygad barcud ar ddatblygiad ymrwymiadau byd-eang i ddatblygu cynaliadwy byth ers hynny. Yn benodol, rwyf wedi cyhoeddi deunydd ar ddatblygu cynaliadwy o safbwynt lleol a Chymreig.
Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Rwy'n gobeithio y bydd fy ymchwil yn cael effaith gadarnhaol ar ddatblygu cyfraith a pholisi i ddiogelu'r amgylchedd yng Nghymru.
A oes elfen draws-ddisgyblaethol i’ch ymchwil? Os felly, pwy arall yn y Brifysgol sy'n ymwneud â'r gwaith?
Rwy'n gweithio'n agos gyda Dr Jonathan Walker o Adran y Biowyddorau yn Abertawe ar gyfraith, polisi a llywodraethu mawndiroedd yng Nghymru. Mae hyn yn bwysig gan y bydd safbwyntiau rhyngddisgyblaethol yn hanfodol er mwyn cyflawni heriau amgylcheddol cymhleth. Gyda'n gilydd, rydyn ni wedi ystyried yr hyn sy'n angenrheidiol i reoli mawndiroedd yn gynaliadwy yng Nghymru, yn genedlaethol ac yn lleol. Daw'r esboniad gorau o'n hymchwil mewn blog i Ymchwil y Senedd sydd ar gael yma: Pwysigrwydd mawndiroedd Cymru a'r gwaith o’u gwarchod (senedd.cymru)
A oes unrhyw gydweithredwyr allanol eraill yn ymwneud â'r gwaith?
Daliais i Gymrodoriaeth ym maes polisi gyda rhaglen gwneud penderfyniadau ar y dirwedd UKRI i archwilio ymagweddau lleol at reoli mawndiroedd yn gynaliadwy. Gwnaed y gwaith hwn ar y cyd â Dr Jonathan Walker (a ddaliodd Gymrodoriaeth gyda'r un rhaglen ar dystiolaeth mawndiroedd Cymru) a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Beth sydd nesaf o ran eich ymchwil?
Rwy'n parhau i ddatblygu fy ymchwil, a'i heffaith yng Nghymru, gyda Jon Walker. Er enghraifft, byddwn ni'n cynnal digwyddiad ymgysylltu â'r cyhoedd gyda Chyngor Sir Caerfyrddin yn yr hydref.
Mae deddfwriaeth amgylcheddol bwysig wrthi'n cael ei datblygu yng Nghymru a bydda i’n cyflwyno ar y pwnc hwn yng nghynhadledd UKELA (Cymdeithas Cyfraith Amgylcheddol y Deyrnas Unedig) ym mis Mehefin ac mewn fforwm polisïau i Gymru yn yr hydref. Bydda i hefyd yn datblygu fy ymchwil i ymagweddau cyfreithiol at adfer natur, sy'n llywio fy modiwl i israddedigion yn y Gyfraith a myfyrwyr gradd Meistr yn y Biowyddorau ar y Gyfraith a'r Argyfwng Natur.