Ym mha gyfadran rydych chi’n gweithio?
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Beth yw'ch prif faes ymchwil?
Yn gyffredinol, rwy'n gweithio ar ddiogelwch a chanfyddiad o fygythiadau: sut mae gwladwriaethau, cymdeithas a sefydliadau yn canfod bod grwpiau, mudiadau a newidiadau cymdeithasol yn beryglus? Sut maen nhw'n ymateb i'r bygythiadau hyn - drwy bolisi? Newid sylweddol? Grym gorfodol?
Er fy mod wedi edrych ar hyn o'r blaen yng nghyd-destun astudiaethau hil-laddiad, ac yn parhau i wneud hynny, rwy'n edrych fwyfwy ar hyn gan gyfeirio at droi'r hinsawdd yn fater diogelwch, a dadleoli.
Pam mae'ch ymchwil yn bwysig?
Rwy'n arbennig o bryderus am gamaddasu at yr hinsawdd. Mewn byd sy'n fwyfwy anghroesawgar, bydd mudiadau adweithiol yn cael eu temtio fwyfwy gan 'foeseg y bad achub arfog' (ac mewn rhai achosion mae hyn eisoes yn digwydd) – sef ymateb i newid yn yr hinsawdd â senoffobia, ffiniau milwrol a thrais uniongyrchol a strwythurol i amddiffyn eu grŵp penodol ar draws yr 21ain ganrif.
Dyma fath arbennig o niweidiol a pheryglus o 'wleidyddiaeth gynaliadwyedd;' yn niweidiol oherwydd ei bod yn bwydo gwleidyddiaeth dreisgar ac anghyfiawn sy'n allgáu pobl (yn enwedig y rhai sydd wedi'u dadleoli gan newid yn yr hinsawdd, neu sy'n ceisio mudo neu loches yn ehangach), ac yn beryglus oherwydd nad yw gwleidyddiaeth o'r fath yn gallu mynd i'r afael â natur systematig argyfyngau hinsoddol ac argyfyngau eraill ar raddfa'r blaned.
Pa Nod Datblygu Cynaliadwy y mae eich ymchwil yn cyd-fynd yn agosaf ag ef?
NOD DATBLYGU CYNALIADWY 16: Hyrwyddo cymdeithasau heddychlon a chynhwysol ar gyfer datblygu cynaliadwy, darparu mynediad at gyfiawnder i bawb a meithrin sefydliadau effeithiol, atebol a chynhwysol ar bob lefel.
Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Rwy'n gobeithio tynnu sylw at risgiau a pheryglon polisïau 'bad achub arfog' - sut maen nhw'n datblygu ar draws y byd, a sut maen nhw'n methu mynd i'r afael â gofynion dynol ac ecolegol yr argyfwng hinsawdd. Rwy'n bwriadu i hyn fod yn adnodd defnyddiol ar gyfer gweithredwyr, llunwyr polisi, a'r rhai sydd wedi'u dadleoli gan yr hinsawdd, ac yn ddull cywiro camaddasu at yr hinsawdd.
A oes elfen drawsddisgyblaethol i’ch ymchwil? Os felly, pwy arall yn y Brifysgol sy'n ymwneud â'r gwaith?
Oes! Mae cysylltiadau agos ac amlwg â daearyddiaeth ddynol (gan fod troi ffiniau'n fater diogelwch yn ymwneud â pherthynas poblogaethau a thiriogaeth), ond mae'r maes yn ymestyn i seicoleg reoli a sefydliadol (sut mae sefydliadau mawr yn cysyniadu ac yn ymateb i risg?), y gyfraith (pa reoliadau ffurfiol sy'n rheoli eu hymddygiad), a hyd yn oed peirianneg (beth yw rôl technoleg wyliadwriaeth, dronau ac AI mewn milwroli ffiniau)? Ynghyd â chydweithwyr yn yr Adran Gwleidyddiaeth, Athroniaeth, a Chysylltiadau Rhyngwladol, rydym wedi bod yn meithrin cysylltiadau ar draws y brifysgol.
A oes unrhyw gydweithredwyr allanol eraill yn ymwneud â'r gwaith?
Rwy'n gweithio'n helaeth gyda'r Rhwydwaith Ymchwil Gwleidyddiaeth Adweithiol (https://reacpol.net) ym Mhrifysgol Caerfaddon.
Beth sydd nesaf ar gyfer eich ymchwil?
Ar hyn o bryd rwy'n gweithio gydag amrywiaeth o gydweithwyr yn Abertawe, gan gynnwys Dawn Bolger a Caner Sayan, i lunio prosiect ymchwil sy'n archwilio polisi diogelwch hinsawdd yn Frontex, llu ffiniau'r UE. Dyma graidd rhaglen ymchwil ehangach sy'n edrych ar droi dadleoli oherwydd hinsawdd yn fater diogelwch ar draws gwladwriaethau yng Ngogledd y Byd.