Ym mha adran rydych chi’n gweithio?
Gwyddoniaeth a Pheirianneg

Beth yw'ch prif faes ymchwil?
Rheolaeth fiolegol a chynhyrchion naturiol

Pam y mae'ch ymchwil yn bwysig?

  • Rydym yn defnyddio adnoddau naturiol a chynaliadwy mewn modd cyfrifol. Mae'r rhain yn cynnwys Plaladdwyr Biolegol ("Bioblaladdwyr")
  • Rydym yn defnyddio organeddau cyfan (e.e. ffyngau pathogenaidd pryfed) neu gyfansoddion naturiol (e.e. semio-gemegau sy'n deillio o blanhigion neu bryfed) i reoli plâu di-asgwrn-cefn o bwysigrwydd economaidd-gymdeithasol, yn enwedig plâu sy'n effeithio ar ddiogelwch bwyd ac iechyd pobl ac anifeiliaid.
  • Mae rhai microbau'n rheoli plâu ac yn hyrwyddo twf planhigion ar yr un pryd, gan helpu i leihau'r defnydd o wrteithiau sy'n gysylltiedig ag allyriadau nwyon tŷ gwydr megis ocsid nitraidd.
  • Mae llawer o blaladdwyr cemegol a gwrteithiau cemegol wedi'u tynnu oddi ar y farchnad neu gyfyngwyd ar y defnydd ohonynt oherwydd y risgiau y maent yn eu cyflwyno i iechyd pobl a'r amgylchedd.
  • Ystyrir bod bioblaladdwyr yn gyfeillgar i'r amgylchedd, gan hyrwyddo bioamrywiaeth. Ar ben hynny, ni chânt eu creu gan ddefnyddio tanwyddau ffosil.

Pa Nod Datblygu Cynaliadwy y mae eich ymchwil yn cyd-fynd yn agosaf ag ef?

Nod ein cynhyrchion a'n strategaethau yw rheoli plâu di-asgwrn-cefn sy'n effeithio ar ddiogelwch bwyd (e.e. pryfed gleision, pryfed gwynion a thripsod) ac iechyd pobl ac anifeiliaid (e.e. mosgitos, trogod)

  • NOD 2: Dim Newyn - Rydym yn helpu i ddatblygu cynhyrchion a fydd yn amddiffyn cnydau rhag plâu a chlefydau, gan hyrwyddo twf a chynyddu cynnyrch.
  • NOD 3: Iechyd a Lles Da - rydym yn defnyddio asiantau naturiol i reoli plâu a hyrwyddo twf planhigion yn hytrach na phlaladdwyr a gwrteithiau cemegol. Trwy wneud hynny, rydym yn helpu tyfwyr i leihau llygru’r amgylchedd a lleihau risgiau i iechyd pobl.
  • NOD 6: Dŵr Glân a Glanweithdra - mae llawer o gemegau a gwrteithiau'n llifo i'r dyfrffyrdd.   Mae maetholion yn arwain at ewtroffigedd.

Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?

Datblygu cynhyrchion microbaidd er mwyn:

  • rheoli plâu cnydau
  • rheoli cludwyr clefydau pobl ac anifeiliaid
  • hyrwyddo twf planhigion
  • cynyddu gwydnwch planhigion i straen biotig ac anfiotig

Datblygu strategaethau sy'n helpu i gynnwys plaladdwyr a gwrteithion ac yn optimeiddio effaith bioblaladdwyr. 

A oes elfen draws-ddisgyblaethol i’ch ymchwil?  Os felly, pwy arall yn y Brifysgol sy'n ymwneud â'r gwaith?

Mae'r gwaith yn draws-ddisgyblaethol. 

  • Mae Dr Joel Loveridge (Cemeg) yn cydweithio ar brosiectau sy'n gysylltiedig ag ecoleg gemegol
  • Mae'r Athro Chedly Tizoui (Peirianneg) yn datblygu molysgladdwr ar sail planhigion
  • Mae Dr Shirin Alexander (Peirianneg) yn datblygu fformiwleiddiadau hydrogel newydd
  • Mae'r Athro Dan Eastwood a Dr Jim Bull (Y Biowyddorau) yn gweithio ar fio-reoli ffwngaidd

A oes unrhyw gydweithredwyr allanol eraill yn ymwneud â'r gwaith?

Nifer o gydweithredwyr allanol.

  • Yr Athro Vasili Kouvelis (Gwlad Groeg)
  • Yr Athro Richard Samuels (Brasil)
  • Dr Gloria Ramirez (Paraguay)
  • Yr Athro Ismail Karaca (Twrci)
  • Dr Sare Yavasoglu (Twrci)
  • Dr Maryn Wood (Gwlad Groeg)
  • Dr Abeer Alkhaibari (Saudi Arabia)
  • Dr Arben Myrta (Cetis Belchim)
  • Dr Tarryn Goble (Lallemand)
  • Dr Farooq Shah (Razbio)

Rwyf wedi gweithio gyda llu o gwmnïau eraill megis Pelsis, Biobest, ac ati

Beth sydd nesaf o ran eich ymchwil?

  • Datblygu consortia microbaidd sy'n gweithredu’n synergyddol wrth ddiogelu cnydau rhag plâu a chlefydau a chynyddu gwydnwch planhigion a chynnyrch. Cymysgeddau o ficrobau sy'n gweithio'n synergyddol â chyfraddau a chostau defnydd.  Gellid hefyd sicrhau patent ar gyfer y cymysgeddau. Gellid trwyddedu eiddo deallusol ar gyfer y cymysgeddau newydd i fyd diwydiant.
  • I egluro unrhyw fecanweithiau sylfaenol sy'n caniatáu i ficrobau gydweithio wrth ddiogelu cnydau a hyrwyddo twf planhigion. 

 

Yr Athro Tariq Butt