Ym mha gyfadran rydych chi’n gweithio?
Dwi'n gweithio yn yr Adran Peirianneg Sifil sy'n rhan o'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Beth yw'ch prif faes ymchwil?
Fy mhrif faes ymchwil yw peirianneg arfordirol ac mae'n canolbwyntio ar ddefnyddio technegau modelu cyfrifiadol mewn cyd-destunau amrywiol yn yr amgylchedd arfordirol.
Pam mae'ch ymchwil yn bwysig?
Mae'r ardal arfordirol yn cynnwys cyfran fawr o bobl ac asedau. Mae’r ymchwil dwi’n ei gwneud yma ym Mhrifysgol Abertawe yn ein helpu i ddeall y prosesau yn yr ardaloedd hynny, y risg sy'n gysylltiedig â digwyddiadau tywydd eithafol, y newidiadau yn y dyfodol oherwydd newid yn yr hinsawdd a gwerth a gwydnwch yr amgylchedd naturiol.
Pa Nod Datblygu Cynaliadwy y mae eich ymchwil yn cyd-fynd yn agosaf ag ef?
Mae llawer o fy ngwaith wedi ymwneud â digwyddiadau eithafol a llifogydd, sy'n berthnasol yn bennaf i'r thema gwydnwch yn Nod Datblygu Cynaliadwy 11 - Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy. Oherwydd natur fy ymchwil, mae cysylltiadau agos hefyd â Nodau 9 ac 14.
Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Drwy gynnwys y ddealltwriaeth ddiweddaraf sydd ar gael a dulliau modelu, fy ngobaith yw helpu i hyrwyddo penderfyniadau mwy gwybodus ynghylch rheoli'r arfordiroedd a chefnogi hyn. Hyrwyddo safbwynt mwy cyfannol am sut mae elfennau gwahanol yn yr amgylchedd arfordirol yn cysylltu â'i gilydd, a'r buddion maen nhw'n eu darparu yn y tymor byr a hir.
Oes elfen drawsddisgyblaethol i’ch ymchwil? Os felly, pwy arall yn y Brifysgol sy'n ymwneud â'r gwaith?
Oes. Yn ogystal â gweithio'n agos gyda'r Athro Harshinie Karunarathna, yr Athro Dominic Reeve a Dr Yunqing Xuan yn yr Adran Peirianneg Sifil, mae fy ymchwil wedi croesi ffiniau disgyblaethau eraill yn aml. Wrth archwilio atebion ar sail natur i amddiffyn arfordirol, dwi wedi gweithio gyda Dr John Griffin a Dr Tom Fairchild yn y Biowyddorau sydd ill dau'n meddu ar wybodaeth helaeth iawn am gynefinoedd morfeydd heli. Dwi hefyd wedi defnyddio fy nghefndir mewn modelu arfordirol i gefnogi gwaith sy’n ymchwilio i safleoedd posib i adfer morwellt ledled Cymru gyda'r Athro James Bull, Dr Richard Unsworth a Dr Chiara Bertelli yn y Biowyddorau.
Oes unrhyw gydweithredwyr allanol eraill yn ymwneud â'r gwaith?
Yn fy ymchwil dwi’n gweithio gyda chydweithredwyr o sefydliadau ledled y DU ac yn rhyngwladol. Ar ben hyn, drwy weithio gyda chyrff megis Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae wedi bod yn bosib llywio ymarfer a pholisi ar sail canlyniadau'r ymchwil.
Beth sydd nesaf ar gyfer eich ymchwil?
Parhau i adeiladu ar ein hastudiaethau a'n llwyddiant blaenorol a datblygu ymhellach ddealltwriaeth o amgylchedd cymhleth a dynamig ein harfordiroedd. Defnyddio'r hyn rydym wedi'i ddatblygu i ddarparu offer ac arweiniad ymarferol. Bydd hyn yn cynorthwyo'r rhai sy'n gyfrifol am reoli, gwarchod ac adfer ein morliniau i wneud y penderfyniadau anodd sydd o'u blaenau oherwydd heriau newid yn yr hinsawdd.