Ym mha gyfadran ydych chi'n gweithio?
Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd.

Beth yw'ch prif faes ymchwil?
Rwy'n canolbwyntio ar les cyfannol ac mae fy nghydweithwyr a minnau wedi datblygu model damcaniaethol ar gyfer lles. Rydym wedi defnyddio'r model hwnnw i ddatblygu llu o ymyriadau sy'n canolbwyntio ar les ar draws y sectorau gofal iechyd ac addysg.

Pam y mae'ch ymchwil yn bwysig?
Ceir llawer o sôn am les, ond beth yn union ydyw mewn gwirionedd? Yn anffodus, mae llawer o gamddealltwriaeth ynghylch lles a sut i'w wella. Un o'r problemau yma yw bod ymchwilwyr fel arfer wedi canolbwyntio ar les o bersbectif eu disgyblaethau eu hunain, ond eto mae llawer i'w ennill drwy fabwysiadu persbectif mwy traws-ddisgyblaethol.  Yn hanesyddol, mae ymchwil i ddisgyblaeth seicoleg wedi canolbwyntio ar yr unigolyn yn unig, sydd yn ei dro wedi arwain at feirniadaeth ynghylch anwybyddu heriau cymdeithasol mawr megis anghydraddoldebau, clefydau cronig a'r argyfwng hinsawdd.   Ar y llaw arall, mae ymchwilwyr iechyd cyhoeddus yn tueddu i anwybyddu potensial mawr newid ymddygiad unigolion. Nod ein gwaith ni yw mynd y tu hwnt i ddadlau a beirniadu, gan ddylunio ymyriadau i hyrwyddo lles ar sawl lefel a graddfa gan ganolbwyntio ar yr unigolyn ei hun, pobl eraill a byd natur.  Pe bai rhywun yn gofyn i ni ddiffinio ystyr lles mewn un gair, byddem yn ymateb gydag un gair, sef 'cysylltiad' gan gynnwys ffocws ar yr unigolyn, pobl eraill a byd natur.

Pa un o'r nodau datblygu cynaliadwy y mae eich ymchwil yn cyd-fynd yn agosach ag ef?
Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar iechyd a lles felly'r trydydd nod datblygu cynaliadwy.

Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Rydym yn gobeithio ail-greu'r posibiliadau sy'n gysylltiedig â meddwl am les mewn modd mwy cyfannol, gan ganolbwyntio ar y cyd-fuddion ar gyfer yr unigolyn, y cymunedau lleol a'r blaned.  Er enghraifft, yn y sector gofal iechyd rydym wedi dylunio ymyriad seicotherapi cadarnhaol ar gyfer pobl sy'n byw gydag anaf caffaeledig i'r ymennydd, â ffocws arbennig ar gysylltiadau â'r hunan, pobl eraill a byd natur.  Rydym wedi dangos bod y gwaith hwn yn gwella lles pobl a chanddynt anafiadau caffaeledig i'r ymennydd, cyflwr sydd yn aml yn gysylltiedig â chaledi a dioddefaint mawr.  Mae ein cydweithrediad â phartneriaid cymunedol - gan symud y tu hwnt i ymagwedd gyfeirio - wedi helpu i ymgorffori ein defnyddwyr gwasanaeth yn eu cymunedau, gan hyrwyddo lles cyfunol. Yn fwy diweddar, rydym wedi gweithio ochr yn ochr â phartneriaid megis Surfability, Down to Earth a Chae Felin, gan ein helpu ni i ailgysylltu ein defnyddwyr gwasanaeth â byd natur. Dangoswyd bod yr ymagwedd hon yn hyrwyddo lles unigolion yn ogystal ag ymddygiadau er budd yr amgylchedd, gan wneud cyfraniadau pwysig at les y blaned. Rydym yn gwneud gwaith tebyg gyda phoblogaethau myfyrwyr prifysgol, gan annog myfyrwyr i ymgysylltu â thechnegau a strategaethau i hyrwyddo lles yr unigolyn (e.e., ymwybyddiaeth ofalgar), lles ar y cyd (e.e. ymuno â grŵp neu gymdeithas) a lles y blaned (e.e., gwirfoddoli ar gyfer menter amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned). Rydym bellach yn canolbwyntio ar adeiladu sylfaen dystiolaeth ar gyfer effaith ein hymchwil ac yn archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithio ac uwchraddio ein gweithgareddau. 

A oes elfen draws-ddisgyblaethol i’ch ymchwil? Os felly, pwy arall yn y Brifysgol sy'n ymwneud â'r gwaith?
Yn hollol, rwy'n aelod o grwpiau llywio amrywiol gan gynnwys rhai'r Sefydliad Ymchwil i Weithredu ar yr Hinsawdd a chanolfan ragoriaeth newydd mewn dylunio bioffilig, gan weithio gyda chydweithwyr gan gynnwys yr Athro Tavi Murray mewn Daearyddiaeth, yr Athro Kirsty Bohata mewn Llenyddiaeth Saesneg a'r Athro Geoff Proffitt yn y Biowyddorau.  Rwyf hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Athrawon Cysylltiol Fede Lopez-Terra a Geraldine Lublin mewn Ieithoedd Modern ar amryw brosiectau a ariennir gan y sefydliad ymchwil draws-ddisgyblaethol, MASI.

A oes unrhyw gydweithredwyr allanol eraill yn ymwneud â'r gwaith?
Rwyf hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol a'r Athro Cysylltiol, Zoe Fisher, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Rydym wedi bod yn cydweithio ers dros wyth mlynedd hyd yn hyn, gan gynrychioli partneriaeth hirsefydlog rhwng bwrdd iechyd a phrifysgol sy'n hyrwyddo ac yn datblygu agenda ymchwil â ffocws ar wella iechyd a lles cyfannol ar draws y sectorau iechyd ac addysg.  

Beth sydd nesaf o ran eich ymchwil?
Rydym wrthi'n gorffen hap-dreial wedi'i reoli mawr ar ein hymyriad seicotherapi cadarnhaol, a gefnogir gan gyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Rydym bellach yn chwilio am gyfleoedd i sicrhau cyllid ymchwil ychwanegol i gefnogi ein gwaith ymhellach, gyda'r nod o ddatblygu Canolfan Ragoriaeth Cymru gyfan mewn niwro-adsefydlu cyfannol. Rydym hefyd yn archwilio cyfleoedd i ymgorffori ein gweithgareddau'n ehangach mewn addysg uwchradd a thrydyddol.

Yr Athro Andrew Kemp