Yr Athro Dan Eastwood

Ym mha gyfadran rydych chi’n gweithio?
Gwyddoniaeth a Pheirianneg

Beth yw'ch prif faes ymchwil?
Fy mhrif faes ymchwil yw bioleg ffwngaidd, yn enwedig sut mae swbstradau cymhleth yn dadelfennu a'r rhyngweithiad rhwng rhywogaethau, ond dwi hefyd yn gweithio ym maes planhigion estron goresgynnol. Yn ddiweddarach, dwi wedi bod yn cyd-arwain y BioHYB Cynhyrchion Naturiol, sef cydweithrediad aml-randdeiliad i hwyluso gwaith arloesi, datblygu a masnacheiddio cynhyrchion naturiol mwy cynaliadwy o gelloedd byw.

Pam mae'ch ymchwil yn bwysig?
Mae'r ffyngau sydd o ddiddordeb i mi yn sbarduno dadelfennu biomas planhigion i sicrhau bod elfennau allweddol, megis carbon, yn cael eu hailgylchu ym myd natur. Mae swbstradau cymhleth fel pren yn cael eu dadelfennu gan ddilyniant o gymunedau o organebau gwahanol sy'n rhyngweithio ac yn creu amrywiaeth o gemegion diddorol, rhai a allai fod o ddefnydd diwydiannol.

Mae planhigion estron goresgynnol yn bygwth llawer o rywogaethau brodorol a’r ffordd rydym yn rhyngweithio â'n mannau awyr agored, a gallan nhw gael effaith ar eich lles hefyd os ydyn nhw’n effeithio ar eich eiddo. Mae llunio strategaethau effeithiol sy'n addas i'w rhoi ar waith ar lefel tirweddau’n hanfodol i'w rheoli. Gall dulliau rheoli aneffeithiol wneud y sefyllfa'n waeth a gallan nhw gyfrannu at effeithiau negyddol ar yr amgylchedd.

Mae'r BioHYB Cynhyrchion Naturiol yn dod ag arloeswyr, datblygwyr cynnyrch a defnyddwyr terfynol ynghyd i greu atebion gwyrddach ar gyfer y cyfansoddion a'r prosesau niferus rydym yn eu defnyddio bob dydd, er enghraifft therapiwteg, cosmetigau, bioadfer cynefinoedd llygredig, neu'r ffordd rydym yn cynhyrchu ac yn gweithgynhyrchu bwyd. Drwy gydweithredu, gallwn oresgyn rhwystrau a datblygu atebion. 

https://www.swansea.ac.uk/bioscience/research-and-impact/natural-products-biohub-project/

Pa Nod Datblygu Cynaliadwy y mae eich ymchwil yn cyd-fynd yn agosaf ag ef?
Drwy fy niddordebau ymchwil amrywiol, y Nodau Datblygu Cynaliadwy sydd fwyaf perthnasol i fy ngwaith yw:

Bywyd ar y tir, arloesi ac isadeiledd diwydiant, dinasoedd a chymunedau cynaliadwy, defnyddio a chynhyrchu cyfrifol, gwaith teilwng a thwf economaidd, partneriaethau ar gyfer y nodau.

Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?

Dealltwriaeth well o sut mae cymunedau microbaidd yn rhyngweithio i ddylanwadu ar eu hecosystemau a sut mae newidiadau o fewn cymunedau microbaidd yn sylfaen i sefydlogrwydd cynefinoedd. Mae'r ddealltwriaeth hon yn allweddol i reoli ein mannau gwyrdd.

Rhoi data cywir a dibynadwy i reolwyr tir a llunwyr penderfyniadau er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch rheoli tirweddau lle mae planhigion estron goresgynnol yn bresennol.

Nod y BioHYB Cynhyrchion Naturiol yw arwain y ffordd wrth ddangos beth gellir ei gyflawni ag organebau byw i ddiwallu ein hanghenon diwydiannol yn y dyfodol. Rhoi Abertawe wrth wraidd chwyldro cynhyrchion naturiol y Deyrnas Unedig gan gynnig manteision i'r rhanbarth wrth gyflawni nodau datblygu cynaliadwy ehangach.

Oes elfen draws-ddisgyblaethol i’ch ymchwil?  Os felly, pwy arall yn y Brifysgol sy'n ymwneud â'r gwaith?
Roedd fy holl waith yn cynnwys cydweithredu. Mae fy ymchwil bresennol yn cynnwys cydweithwyr yn yr adrannau Peirianneg (Yr Athro Rich Johnston), Cemeg, (Dr Deb Roy), yr Uned Sbectrometreg Màs (Dr Ruth Godfrey a Dr Ann Hunter) ac Adran y Gyfraith (yr Athro Michael Draper).

Mae dros 40 o academyddion (mae'r nifer yn tyfu) o bob cyfadran yn y Brifysgol yn ymwneud â'r BioHYB Cynhyrchion Naturiol ac rydym bob amser yn awyddus i ryngweithio a chefnogi rhagor o gydweithwyr.

Oes unrhyw gydweithredwyr allanol eraill yn ymwneud â'r gwaith?

Mae fy ymchwil ffwngaidd yn canolbwyntio ar gydweithrediad a ddatblygwyd dros y blynyddoedd. Dwi wedi arwain prosiectau dilyniannu genom sy'n cynnwys labordai o bob cwr o'r byd. Yn fwy diweddar, dwi wedi cydweithredu â grŵp yr Athro Lynne Boddy ym Mhrifysgol Caerdydd a Dr Kathryn Ford ym Mhrifysgol Bryste.

Mae fy ymchwil i blanhigion estron goresgynnol yn cynnwys nifer o randdeiliaid allanol sy'n ymwneud â rheoli planhigion goresgynnol, e.e. Complete Weed Control Ltd, Advanced Invasives Ltd.

Ar hyn o bryd, mae gan y BioHYB Cynhyrchion Naturiol fwy na 50 o randdeiliaid allanol, o bartneriaid dinesig, grwpiau cymunedol a busnesau.

Beth sydd nesaf ar gyfer eich ymchwil?
Mae fy ymchwil yn parhau i adeiladu ar ymchwil sydd eisoes ar gael. Po fwyaf rydym yn ei ddarganfod, mwyaf mae angen i ni ei ddysgu. Dwi’n gobeithio dysgu am esblygiad mecanweithiau pydru pren gwahanol a chanfod sut roedd rhywogaethau gwahanol wedi ymaddasu i gyflawni rolau gwahanol yn y continwwm pydru. Efallai darganfod cyfansoddyn newydd a all gael ei ddefnyddio yn y frwydr yn erbyn ymwrthedd i gyffuriau gwrthficrobaidd.

Byddwn ni'n parhau i ddatblygu dulliau gwahanol o reoli planhigion estron goresgynnol, wrth hyrwyddo pwysigrwydd cynnwys cynlluniau adfer ar ôl triniaeth mewn unrhyw raglen reoli - yn seiliedig ar ymchwil gadarn wrth gwrs.

Bydd tyfu'r BioHyb Cynhyrchion Naturiol yn cymryd llawer o fy amser, a hwyluso ymchwil a datblygu cyffrous a galw ar yr holl gydweithwyr a rhanddeiliaid sydd â diddordeb i gysylltu â mi a meddwl sut gallwn ni gydweithio.

Yr Athro Dan Eastwood