Yr Athro David Pickernell

Ym mha gyfadran rydych chi’n gweithio?
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol

Beth yw'ch prif faes ymchwil?
Polisi Datblygu Busnesau a Mentrau Bach

Pa Nod Datblygu Cynaliadwy y mae eich ymchwil yn cyd-fynd agosaf ag ef?
Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd

Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Nodi'n well sut gall arloesi fod o fudd ym myd busnes, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, gan nodi'r gweithgareddau arloesi ac entrepreneuriaeth sydd fwyaf defnyddiol wrth ategu gweithgareddau ‘ffyniant bro’ cymunedau lleol.

A oes elfen draws-ddisgyblaethol i’ch ymchwil? Os felly, pwy arall yn y Brifysgol sy'n ymwneud â'r gwaith?
Drwy'r Sefydliad Ymchwil Arloesi ac Entrepreneuriaeth, rwy'n gweithio ar draws y disgyblaethau gwahanol yn y gyfadran, yn ogystal â chyfadrannau eraill. Yr enghraifft amlycaf o hyn yw fy nghydweithrediad presennol i gyflwyno cynnig i UKRI am gyllid cryfhau gwydnwch system fwyd y DU, ar brosiect o'r enw “A holistic regenerative Fungi-Based UK Circular food system via herbs, tilapia, and animal feed”, â chydweithwyr sy'n canolbwyntio ar y biowyddorau, y gwyddorau biofeddygol, dyframaethu, iechyd y cyhoedd, gwybodeg, ymddygiad a seicoleg defnyddwyr bwyd, cadwyni cyflenwi, economeg, entrepreneuriaeth a chynaliadwyedd.

A oes unrhyw gydweithredwyr allanol eraill yn ymwneud â'r gwaith?
Oes, rwy'n cymryd rhan mewn sawl cydweithrediad allanol â chydweithwyr o brifysgolion eraill yng Nghymru, yn ogystal â chydweithwyr yn Lloegr, Ffrainc, Sweden ac Awstralia.

Beth sydd nesaf o ran eich ymchwil?
Rwy'n ymchwilio i'r ffordd orau o gefnogi’r economi ranbarthol drwy arloesi ac entrepreneuriaeth, gan ganolbwyntio'n benodol ar Gastell-nedd Port Talbot yn sgîl y cyhoeddiad gan Tata Steel.


Yr Athro David Pickernell