Yr Athro Dirk Van Der Werf

Ym mha gyfadran rydych chi’n gweithio?
Gwyddoniaeth a Pheirianneg

Beth yw'ch prif faes ymchwil?
Ffiseg gan ddefnyddio Positronau, Gwrthbrotonau a Gwrthfater.

Pam mae'ch ymchwil yn bwysig?
Mae'n hwyl ac yn ymchwil sylfaenol sy'n edrych ar gymesuredd sylfaenol yn y bydysawd. Rwyf wedi bod yn gweithio ar hyn ers 1998.

Pa Nod Datblygu Cynaliadwy y mae eich ymchwil yn cyd-fynd yn agosaf ag ef?
Ddim yn gysylltiedig ag unrhyw un mewn gwirionedd.

Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Dealltwriaeth well o ffiseg y bydysawd (mae hynny'n swnio'n bwysig iawn...)

A oes elfen drawsddisgyblaethol i’ch ymchwil?  Os felly, pwy arall yn y Brifysgol sy'n ymwneud â'r gwaith?
Cynhelir gwaith ymchwil drawsddisgyblaethol gyda grŵp ar draws y byd, er eu bod oll yn ffisegwyr, mae'r amrywiad yn yr arbenigeddau ffiseg yn eithaf mawr.

A oes unrhyw gydweithredwyr allanol eraill yn ymwneud â'r gwaith?
Oes (gweler yr ateb uchod). Rwy'n cydweithio â phobl o'r gwledydd cyflogi canlynol: y DU, Ffrainc, yr Almaen, Denmarc, Sweden, Canada, Brasil, UDA, y Swistir, Israel, Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Corea (De Corea), Japan.  Serch hynny, daw'r unigolion eu hunain o wledydd eraill hefyd.

Beth sydd nesaf ar gyfer eich ymchwil?
Gwneud yr hyn rwyf eisoes yn ei wneud, ac yn ddiweddar rydyn ni wedi ymuno â chydweithrediad arall sy’n ehangach na ffiseg yn unig. Nod y prosiect yw gwneud fersiwn ratach ar gyfer therapi protonau a gronynnau trymach yn erbyn canser.

 

Yr Athro Dirk Van Der Werf