Ym mha adran rydych chi’n gweithio?
Gwyddoniaeth a Pheirianneg

Beth yw'ch prif faes ymchwil?
Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall newid arfordirol a risg llifogydd mewn hinsawdd newidiol a defnyddio'r wybodaeth honno i ddatblygu atebion ar sail natur i helpu i reoli arfordiroedd mewn modd cynaliadwy.

Pam y mae'ch ymchwil yn bwysig?
Bydd llifogydd arfordirol yn effeithio ar 15% o boblogaeth y byd ac yn costio oddeutu £50 biliwn bob blwyddyn erbyn 2050. Bydd erydu arfordirol a llifogydd yn cynyddu'n gyflym tua diwedd y ganrif hon wrth i lefel y môr godi ac o ganlyniad i stormydd eithafol mwyfwy cyffredin. Mae rhai cymunedau ac isadeileddau arfordirol yn annhebygol o oroesi oni bai y cymerir mesurau i'w hamddiffyn rhag llifogydd ac erydu arfordirol, a hynny ar frys. Gan fod yr ymagwedd bresennol at liniaru llifogydd arfordirol sy'n ymwneud ag adeileddau caled, sefydlog yn fwyfwy anaddas at y diben, cydnabuwyd yn fyd-eang fod yn rhaid rhoi strategaethau amgylcheddol gynaliadwy ar waith ar frys i reoli risg llifogydd. Rwy'n ceisio deall rhyngweithiadau ac ymatebion naturiol cymhleth rhwng prosesau hydrolegol, ecolegol a chludo gwaddodion yn yr amgylchedd arfordirol sy'n elfennau allweddol wrth ddatblygu atebion ar sail natur i amddiffyn arfordiroedd yn llwyddiannus.

Pa Nodau Datblygu Cynaliadwy y mae eich ymchwil yn cyd-fynd yn agos â nhw?
Nod Datblygu Cynaliadwy 11: Dinasoedd a chymunedau cynaliadwy
Nod Datblygu Cynaliadwy 13: Gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd

Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Mae amddiffyn pobl a'r amgylchedd rhag peryglon arfordirol mewn hinsawdd newidiol yn hynod heriol a chostus. Fy nod yw canfod tystiolaeth wyddonol angenrheidiol i ddatblygu ffyrdd cynaliadwy o amddiffyn arfordiroedd sy’n cynnig sawl budd amgylcheddol a chymdeithasol, a datblygu methodolegau a all helpu i gynllunio'r rhain.

A oes elfen draws-ddisgyblaethol i’ch ymchwil? Os felly, pwy arall yn y Brifysgol sy'n ymwneud â'r gwaith?
Oes, mae'n hanfodol i mi gydweithredu â chydweithwyr o adrannau eraill yn y Brifysgol a rhai allanol. Er enghraifft, mewn prosiect a ariennir gan Ymddiriedolaeth Leverhulme i asesu mesurau lliniaru llifogydd mewn morfeydd heli drwy gymorth deallusrwydd artiffisial, rwy'n gweithio'n agos gyda thîm rhyngddisgyblaethol o ymchwilwyr sy'n cynnwys cydweithwyr yn adrannau'r Biowyddorau a Chyfrifiadureg i archwilio sut gellir defnyddio deallusrwydd artiffisial i ddatblygu dull cynaliadwy newydd o liniaru llifogydd sy'n ymwneud ag ecosystemau morfeydd heli.

A oes unrhyw gydweithredwyr allanol eraill yn ymwneud â'r gwaith?
Rwyf wedi bod yn gweithio gydag ymgynghorwyr peirianneg sy'n llunio dulliau o amddiffyn rhag llifogydd ac erydu arfordirol. Rwy'n cydweithredu'n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n gyfrifol am ddatblygu strategaethau i liniaru peryglon arfordirol mewn modd cynaliadwy a Chanolfan Monitro Arfordirol Cymru, sy'n arolygu newid arfordirol ledled Cymru’n rheolaidd. Yn ogystal, rwy'n cynnal cydweithrediadau ymchwil cryf â phrifysgolion eraill yn y DU a rhai rhyngwladol.

Beth sydd nesaf o ran eich ymchwil?
Rwyf am roi fy ymchwil ar waith at ddibenion ehangach y tu allan i'r DU ac Ewrop. Er bod gen i amser cyfyngedig iawn i gynnal fy ymchwil fy hun, rwy'n mwynhau rhannu fy ymchwil â myfyrwyr PhD ac ymchwilwyr gyrfa gynnar, a'u cefnogi a'u mentora i ddatblygu i fod yn arweinwyr ymchwil i beirianneg arfordirol gynaliadwy yn y dyfodol.


Yr Athro Harshinie Karunarathna