Ym mha gyfadran rydych chi’n gweithio?
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol

Beth yw'ch prif faes ymchwil?
Cyfraith amgylcheddol.

Pam mae'ch ymchwil yn bwysig?
Rwy'n gweithio'n bennaf ar gyfraith ryngwladol a newid yn yr hinsawdd - felly daw pwysigrwydd yn sgîl y gwaith hwn. Gwyddom fod cynhesu byd-eang oherwydd gweithredoedd y ddynoliaeth eisoes yn cael effaith sylweddol ar fywyd pob dydd ar draws y byd a dim ond gwaethygu y gwnaiff hyn dros amser. Gwyddom hefyd fod yr ymateb byd-eang i newid yn yr hinsawdd yn annigonol - yn rhy araf a heb ddigon o uchelgais. Os nad yw newid yn yr hinsawdd yn mynd i ddatblygu'n fygythiad dirfodol i'r ddynoliaeth, rhaid i ni wneud yn well - ac mae'r gyfraith yn ganolog i hynny.

Pa Nod Datblygu Cynaliadwy y mae eich ymchwil yn cyd-fynd yn agosaf ag ef?
Mae'r Gyfraith yn ddisgyblaeth drawsbynciol a gall gael ei chynnwys yn unrhyw un o'r nodau. Mae fy ngwaith i'n cyd-fynd agosaf â nodau 5, 13 ac 16.

Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Rwy'n gobeithio canfod ffyrdd o gyfrannu at weithredu gwell ar newid yn yr hinsawdd. Un peth y gall y gyfraith helpu gydag ef yw dod ag ystod fwy amrywiol o leisiau i'r bwrdd - rhaid i ni ddefnyddio pob elfen ar y ddynoliaeth i fynd i'r afael â'r heriau amgylcheddol enfawr rydym yn eu hwynebu, ac nid ydym yn gwneud hynny ar hyn o bryd. Os byddwn yn parhau i wneud penderfyniadau'n seiliedig ar farn y lleiafrif a'r breintiedig, byddwn yn parhau i weithredu yn y ffyrdd sydd wedi arwain at y problemau presennol a heb wneud y newidiadau cymdeithasol dwys y mae eu hangen i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Oes elfen drawsddisgyblaethol i’ch ymchwil? Os felly, pwy arall yn y Brifysgol sy'n ymwneud â'r gwaith?
Oes - yn anochel mae ymchwil ym maes cyfraith amgylcheddol yn cynnwys elfen ryngddisgyblaethol. Rwy'n aelod o grwpiau llywio CARN a CARI er mwyn dod â'r gyfraith i'r bwrdd mewn sgwrs gyda'r gwyddorau cymdeithasol a phynciau STEM gyda'r nod o fwyafu effaith ein gwaith ymchwil yn y byd go iawn. 

A oes unrhyw gydweithredwyr allanol eraill yn ymwneud â'r gwaith?
Rwy'n gweithio gydag amrywiaeth o gydweithwyr allanol o'r byd academaidd (byd-eang) a’r tu hwnt. Rwyf wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac amrywiaeth o gyrff anllywodraethol - ar hyn o bryd mae fy mewnbwn yn y maes hwn yn canolbwyntio ar Gymuned Ymarfer UNFCCC yn Azerbaijan ac rwyf wedi bod yn cynghori'r Ymateb Cyfreithiol i gynorthwyo gwladwriaethau sy'n datblygu i gymryd rhan yn agweddau rhywedd trafodaethau'r gynhadledd ac wedi siarad â She Changes Climate am gael strategaeth ar faterion rhywedd cyn y digwyddiad.    Rwyf hefyd yn cynnal trafodaethau gyda Llys Dinasyddion y Byd am Dribiwnlys Cyfiawnder yr Hinsawdd sy'n canolbwyntio ar Hawliau Dynol a Newid yn yr Hinsawdd.

Beth sydd nesaf ar gyfer eich ymchwil?
Myfyrio ar y Gymuned Ymarfer ac edrych am ffyrdd o sicrhau pontio cyfiawn, cynhwysol ac effeithiol i gymdeithas carbon isel.

 

Yr Athro Karen Morrow