Ym mha gyfadran rydych chi’n gweithio?
Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Beth yw'ch prif faes ymchwil?
Deunyddiau ynni ffotofoltäig solar (PV) a chymwysiadau'r genhedlaeth nesaf o PV.
Pam mae'ch ymchwil yn bwysig?
Mae fy ymchwil yn hanfodol oherwydd ei bod yn mynd i'r afael â'r her fyd-eang o drosglwyddo i ffynonellau ynni cynaliadwy. Drwy wella technolegau ffotofoltäig solar, nod yr ymchwil yw gwneud ynni adnewyddadwy yn fwy effeithlon, fforddiadwy a hygyrch yn eang, a thrwy hynny leihau dibyniaeth ar danwyddau ffosil a lliniaru newid yn yr hinsawdd.
Pa Nod Datblygu Cynaliadwy y mae eich ymchwil yn cyd-fynd yn agosaf ag ef?
Mae fy ymchwil yn cyd-fynd yn agosaf â Nod Datblygu Cynaliadwy 7: Ynni fforddiadwy a Glân
Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Fy nod yw datblygu deunyddiau a thechnolegau arloesol sy'n gwella perfformiad a chymhwyso technolegau PV solar yn sylweddol. Bydd hyn yn cyfrannu at ddyfodol ynni glanach ac yn cefnogi ymdrechion byd-eang i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
A oes elfen drawsddisgyblaethol i’ch ymchwil? Os felly, pwy arall yn y Brifysgol sy'n ymwneud â'r gwaith?
Oes, rwy'n Gyd-brif Ymchwilydd ar y prosiect GENERATION. Mae'n cynnwys cydweithio ar draws adrannau ym Mhrifysgol Abertawe. Yn benodol, â chydweithwyr yn yr adran Gyfrifiadureg, megis yr Athro Matt Jones a Dr Deepak Sahoo, a chyda'r Athro Martin Hyde (gynt o Gyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol), sydd bellach yng Nghaerlŷr). Mae ein hymchwil yn cyfuno arbenigedd mewn gwyddor deunyddiau, rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron (HCI), gerontoleg, a pheirianneg electronig i ddatblygu dyfeisiau'r Rhyngrwyd Pethau wedi'u hunanbweru sy'n gynaliadwy ac yn hawdd i oedolion hŷn eu defnyddio. Mae'r dull amlddisgyblaethol hwn yn hanfodol i fynd i'r afael â'r heriau cymhleth o integreiddio technolegau cynaliadwy i fywyd pob dydd, yn enwedig ar gyfer grwpiau ar y cyrion.
A oes unrhyw gydweithredwyr allanol eraill yn ymwneud â'r gwaith?
Oes, ar gyfer GENERATION, rydym yn cydweithio â'r Athro Marina Freitag o Brifysgol Newcastle. Mae hi'n arbenigwr mewn deunyddiau ar gyfer deunyddiau ffotofoltäig sy’n casglu ynni. Mewn prosiectau eraill a ariennir gan UKRI, rydym yn cydweithio'n rheolaidd â chydweithwyr yng Ngholeg Imperial, Prifysgol Rhydychen, QMUL ac eraill.