Ymunwch â SWell yma i gael eich gwobrwyo am y pethau cadarnhaol a wnewch er budd cynaliadwyedd a’ch llesiant!
Hoffech chi ennill gwobrau am ofalu am eich llesiant, am wneud dewisiadau cynaliadwy ac am helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd?
Fel prifysgol, rydym wedi ymrwymo i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd ac rydym eisiau gwobrwyo’r staff a’r myfyrwyr hynny sy’n ein helpu i gyflawni ein nod. Dyna pam rydym wedi ail-lansio ein rhaglen SWell ar gyfer ein staff a’n myfyrwyr er mwyn esgor ar effaith fwy fyth a gwireddu’r ymrwymiadau yn ein Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng Hinsawdd.
Beth yw SWell?
Gwefan ac ap yw SWell lle gallwch ennill ‘Pwyntiau Gwyrdd’ trwy gofnodi’r pethau cadarnhaol a wnewch; boed hynny o ran cynorthwyo bywyd gwyllt, dewis cludiant isel ei garbon neu ofalu am eich lles meddyliol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru er mwyn cynorthwyo eich Cyfadran neu eich PSU i gystadlu ag adrannau eraill, a gweithiwch fel tîm i gyrraedd y brig. Mwyaf yn y byd o bwyntiau gwyrdd a enillwch, mwyaf tebygol fyddwch chi o ennill gwobr! Gwyliwch fideo byr sy'n egluro mwy am sut mae SWell yn gweithio yma.
Sut alla i gael fy ngwobrwyo?
Bob mis, byddwn yn rhoi 20 o dalebau sy’n werth £10 yr un i’r rhai a fydd wedi perfformio orau. Bydd modd dewis o blith y talebau canlynol: Just ONE TREE, National Book Tokens, M&S, y Parc Chwaraeon, yr Odeon, Undeb y Myfyrwyr a Root.
Hefyd, ar ddiwedd y flwyddyn academaidd bydd y timau buddugol o blith ein staff a’n myfyrwyr yn cael rhodd o £500 i’w rhoi i elusen. Gellir dewis o blith Platfform, Yr Ymddiriedolaethau Natur, Goleudy, Discovery a Fareshare.
Sut mae cofrestru?
Cofrestrwch here trwy ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost prifysgol er mwyn dechrau creu effaith gadarnhaol neu lawrlwythwch ap SWell ar iOS ac Android.