Trosolwg o'r Ganolfan
Mae grŵp GEMEO yn yr Adran Ddaearyddiaeth, Coleg y Gwyddorau. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall sut y mae newidiadau naturiol ac a wnaed gan ddyn yn effeithio ar y bïosffer. Ar gyfer ein hymchwil, rydym yn defnyddio data lloerenni a modelau amgylcheddol. Mae gwaith diweddar yn cynnwys datgelu newidiadau mewn iechyd fforestydd ac ecosystemau, deall sut y mae newidiadau o ran llystyfiant ar raddfa fyd-eang yn effeithio ar gylchoedd carbon a hydrolegol, a modelu trosglwyddiad ymbelydrol o ryngweithiadau golau mewn canopïau o lystyfiant yn sbarduno arwyddion y mae lloerenni'n eu harsylwi. Mae ymchwil ar fodelu trosglwyddiad ymbelydrol wedi cefnogi teithiau lloerenni a ddyluniwyd gan ESA a NASA. Mae enghreifftiau'n cynnwys adfer setiau o ddata am erosolau amgylcheddol byd-eang i gefnogi taith Sentinel ESA a datblygu technegau i gael data ar strwythur llystyfiant i gefnogi taith ICESAT-2 NASA.