Os ydych yn gwmni rhyngwladol neu’n fenter newydd, os hoffech ddod i ffair yrfaoedd brysur neu gynnig digwyddiad pwrpasol, gallwn eich helpu i lunio doniau'r dyfodol ar gyfer eich diwydiant.

Dewch i'n ffair yrfaoedd

Dewch i'n Ffair Yrfaoedd flynyddol yn yr hydref i gwrdd â'ch darpar aelodau staff graddedig nesaf. Mae ein Ffair Yrfaoedd, a gynhelir dros ddau ddiwrnod ac ar ddau gampws, yn denu mwy na 2000 o fyfyrwyr o bob un o'n meysydd pwnc.

Bydd Ffair Yrfaoedd nesaf yn cael ei chynnal ar:

Campws Singleton: Dydd Mawrth 15 Hydref, 10:30 - 15:00

Campws y Bae: Dydd Mercher 16 Hydref, 10:30 - 15:00

E-bostiwch ein Cydlynydd Digwyddiadau Cyflogwyr, Linda, am rhagor o wybodaeth. Neu llenwch ein ffurflen archebu isod i gadw eich lle heddiw! 

Gadw eich lle heddiw!

Cyflogwch Ein Myfyrwyr Am Waith Rhan-Amser

Cynhelir ein Ffair Swyddi Rhan-amser nesaf ar:

ddydd Mawrth 1 Hydref o 10:00 - 12:00 ar Gampws Singleton (Creu Taliesin) ac o 13:00 - 15:00 ar Gampws y Bae (Adeilad yr Ysgol Reolaeth).

Gall yr holl fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth a blwyddyn astudio ddod i’r digwyddiad i ddarganfod pa opsiynau sydd ar gael.

Nodwch fod hwn yn ddigwyddiad recriwtio ac arddangos ac mae presenoldeb er mwyn recriwtio staff myfyrwyr rhan-amser a/neu wirfoddol yn unig.

Gadw eich lle heddiw!

Cyflwynwch i'n myfyrwyr

Gallwn drefnu digwyddiad sy'n rhoi sylw ar y cyflogwr, wedi'i deilwra i'ch anghenion, a fydd yn datblygu dealltwriaeth myfyriwr o'ch sector ac yn hyrwyddo'ch busnes.

Os hoffech fwy o wybodaeth neu i drafod sut y gallwch ymgysylltu â'n myfyrwyr a'n graddedigion dawnus, cysylltwch â ni.

Cysylltwch â'n tîm cyflogadwye