Ymunwch â ni yr hydref hwn wrth i ni ddod â miloedd o fyfyrwyr a graddedigion diweddar dawnus ac uchelgeisiol ynghyd, gan eu cysylltu â chyflogwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Bydd y Ffair Yrfaoedd flynyddol yn digwydd ar:
Campws Singleton: Dydd Mawrth 15 Hydref, 10:30 - 15:00
Campws y Bae: Dydd Mercher 16 Hydref, 10:30 - 15:00
Achubwch y blaen ar eich cystadleuwyr drwy recriwtio graddedigion Prifysgol Abertawe neu gynnig cyfleoedd interniaeth i'r genhedlaeth nesaf o ddoniau.
Bydd cyflogwyr yn gallu rhyngweithio â thros 2,000 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig dawnus, yn ogystal â graddedigion diweddar. Rhannwch arbenigedd eich cwmni, codwch ymwybyddiaeth o'ch brand a chwiliwch am y seren nesaf i’ch gweithlu!