Mae Prifysgol Abertawe'n darparu mynediad i gronfa o dros 20,000 o fyfyrwyr a graddedigion dawnus iawn i lenwi swyddi rhan-amser, rolau i raddedigion a lleoliadau profiad gwaith.
Lleoliadau gwaith ac interniaethau
Os ydych am ddatblygu dyfodol eich sefydliad, neu os oes gennych brosiect mae angen ei gwblhau, mae gennym raglen profiad gwaith i ddiwallu'ch anghenion.
- Interniaethau a Ariennir
Cyfleoedd allgyrsiol tymor byr, sy'n amrywio o bythefnos i ddeng wythnos. Gellir eu cynnal drwy gydol y flwyddyn a chânt eu cynnig ar sail amser llawn neu ran-amser. Mae cyllid ar gael tuag at gyflog y myfyriwr neu'r myfyriwr graddedig. - Lleoliadau gwaith fel rhan o gwrs
O brosiectau blwyddyn olaf i fodiwlau profiad gwaith, mae profiad mewn diwydiant yn rhan o gyrsiau'r rhan fwyaf o'n myfyrwyr. Fel arfer, prosiectau rhan-amser, tymor byr, yw'r rhain sy'n cael eu rheoli ar y cyd â goruchwyliwr y cwrs. - Blwyddyn mewn Diwydiant
Mae llawer o'n cyrsiau'n cynnig cyfle i fyfyrwyr dreulio blwyddyn mewn diwydiant fel rhan o raglen gradd. Fel arfer, trefnir hyn rhwng ail flwyddyn a blwyddyn olaf gradd israddedig. Mae'r lleoliadau gwaith hyn yn cael eu teilwra i gyrsiau penodol ac maent yn ymwneud â disgyblaeth gradd y myfyriwr.
Rydym yn trefnu lleoliadau gwaith ac interniaethau ar gyfer myfyrwyr a graddedigion ag amrywiaeth eang o ddyheadau gyrfa, o bob disgyblaeth ac ar bob lefel.
Rolau graddedigion a swyddi gwag rhan amser
Mae dros 5000 o fyfyrwyr yn graddio o Brifysgol Abertawe bob blwyddyn felly, os oes gennych gyfleoedd i raddedigion yng Nghymru, y DU neu'n fyd-eang, gallwn eich helpu i ddod o hyd i'r ymgeisydd iawn ar gyfer eich sefydliad.
Yn ogystal â hynny, wrth iddynt astudio, mae ein myfyrwyr bob amser yn cadw llygad am swyddi rhan-amser addas i ychwanegu at eu hincwm a'u helpu i gael profiad felly, os oes gennych rôl yr hoffech ei llenwi, gallwn helpu.
Hysbysebwch eich swyddi gwagMentergarwch ac Entrepreneuriaeth Myfyrwyr
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni heddiw i drafod sut gall ein myfyrwyr a'n graddedigion dawnus wneud gwahaniaeth i'ch sefydliad.
Cysylltwch â ni