Yn ôl ymchwil a gynhaliwyd gan y Ffederasiwn Busnesau Bach ym mis Awst 2022, roedd 80% o fusnesau bach wedi wynebu heriau yn ystod y fwyddyn faenorol wrth chwilio am ymgeiswyr â sgiliau addas. Ar yr un pryd, amcangyfrifodd yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch fod 22% o boblogaeth myfyrwyr y DU yn fyfyrwyr rhyngwladol.
Gyda chymorth eich prifysgol leol, gall doniau graddedigion rhyngwladol ddiwallu anghenion eich busnes.
Pethau i feddwl amdanynt
Y ffordd orau o ddod o hyd i raddedigion rhyngwladol yw dechrau gweithio gyda hwy pan fyddant yn dal i fod yn fyfyrwyr. Mae mentrau cyfogadwyedd o ddiddordeb penodol i fyfyrwyr rhyngwladol ac mae eu cyfranogiad mewn rhaglenni interniaethau, ffeiriau gyrfaoedd a digwyddiadau i gyfogwyr yn uchel.
Wrth fynd i ddigwyddiadau mewn prifysgolion, byddwch yn agored wrth drafod â myfyrwyr y cyfeoedd sydd ar gael i raddedigion yn eich sefydliad.
Wrth hysbysebu rolau, eglurder yw’r peth allweddol er mwyn dod o hyd i ymgeiswyr rhyngwladol dawnus. Mae llawer o rolau’n methu denu diddordeb graddedigion rhyngwladol oherwydd amwysedd ynghylch cymhwysedd. Gall cynnwys datganiad cyfogi teg â gwybodaeth i raddedigion rhyngwladol am y mathau o fsa y gallwch eu defnyddio i gyfogi pobl wneud gwahaniaeth anferth
i ymgeiswyr rhyngwladol. Os hoffech gael cymorth wrth ysgrifennu hysbysebion a fydd yn denu graddedigion rhyngwladol, byddai ein tîm profadol o weithwyr cyfogadwyedd proffesiynol wrth eu boddau’n helpu.
Yn olaf, ystyriwch fuddion ymarferol cyfogi graddedigion rhyngwladol. Wrth eu natur, mae ganddynt feddylfryd byd-eang a gallant ddeall diwylliannau eraill, yn ogystal ag ieithoedd eraill, gan ehangu eich gwybodaeth am y farchnad. Profwyd bod amrywiaeth mewn tîm yn cryfhau ac yn cyfoethogi gweithleoedd. Diolch i’w profadau eang, mae gan raddedigion rhyngwladol wytnwch
a hyblygrwydd ardderchog yn aml.
Cymorth Pellach
Os hoffech chi gael cymorth wrth lunio hysbysebion a fydd yn denu graddedigion rhyngwladol, byddai ein tîm profiadol o weithwyr cyflogadwyedd proffesiynol wrth eu boddau'n helpu, felly cysylltwch â ni yn: employmentzone@abertawe.ac.uk