Rydym yn gobeithio eich bod yn edrych ymlaen at ein Diwrnod Agored i Israddedigion!

Rydym yn edrych yn ymlaen at eich croesawu i Brifysgol Abertawe lle byddwch chi'n cael yr holl wybodaeth am fod yn fyfyriwr yn Abertawe. Hoffech chi ddarganfod Anian Abertawe? Dyma beth fydd yn disgwyl amdanoch chi pan fyddwch chi’n ymweld â Phrifysgol Abertawe!

Edrychwch ar y rhaglen isod a threfnwch eich diwrnod, gallwch ddod o hyd i fanylion parcio ar ein tudalen penodol am barcio.

Sylwer: gall amserau a lleoliadau'r sesiynau newid, dylet ti gyfeirio at y rhaglen ar ddiwrnod y digwyddiad i gael yr wybodaeth ddiweddaraf. 

 

Opsiynau Arlwyo

Mae'r mannau arlwyo canlynol ar agor ddydd Sadwrn:

Campws Singleton   Campws Y Bae  
Cafe Glas 9.30am-2pm The Hideaway 9am-5pm
Greggs 8am-6pm Subway 10am-4pm
Harbwr  Seating area 8am-5pm Tafarn Tawe

12-11pm

Harbwr Kitchen/servery 9am-5pm  College Costa   8am-2pm 
Tortilla 11.30am-6pm CoffeeOp   9am-2pm 
Costcutter 8am-10pm    

Mapiau

Byddwch chi'n cael map wrth gyrraedd, neu maen nhw ar ein gwefan. 

Map Campws Singleton Map Campws y Bae

Ardal Leol

Os hoffech chi archwilio'r ardal leol, rydym wedi creu arweiniad sy'n dangos yr holl leoedd mae ein myfyrwyr presennol yn eu hadnabod ac yn dwlu arnynt

Gobeithio y byddwch chi'n joio!