Manylion am yr Ymchwil
Maes Pwnc: Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Goruchwylwyr: Yr Athro Daniel Williams a Julian Preece
Gradd Ymchwil: PhD
Teitl y traethawd ymchwil: Raymond Williams and European Thought/Raymond Williams ac Agweddau Ewropeaidd
Crynodeb o'r Ymchwil
Rwyf yn ymchwilio i ddylanwad Marcsiaeth Ewropeaidd yr 20fed ganrif ar waith y beirniad diwylliannol o Gymru, Raymond Williams. Mae fy ngwaith ymchwil yn canolbwyntio'n benodol ar y croestoriadau athronyddol ac esthetig rhwng gwaith beirniadol blaengar Williams, ei nofelau a gwaith Lukacs, Sartre a Gramsci, tri ffigwr blaenllaw yn nhraddodiad Marcsaidd y Gorllewin.
Cyhoeddiadau
Ni cheir cyhoeddiadau academaidd a adolygwyd gan gymheiriaid eto. Erthygl o'r enw ‘In Defence of Interesting Times’ i’w chyhoeddi (2017) yn y fersiwn ar-lein o Planet: The Welsh Internationalist