Manylion am yr Ymchwil
ADRAN/MAES PWNC - Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Diwylliannol
GORUCHWYLIWR/GORUCHWYLWYR - Dr Dion Curry a'r Athro Jonathan Bradbury
GRADD YMCHWIL (PhD)
TEITL Y TRAETHAWD YMCHWIL - Exploring the Significance of Epistemic Communities for the Development of Multi-Level Governance Arrangements: Cultural Heritage Policy in Wales & Québec
Crynodeb o'r Ymchwil
Damcaniaeth fy astudiaeth yw bod arbenigwyr (wedi'u cysyniadoli gan ddefnyddio fframwaith y cymunedau epistemig) yn cyfrannu'n sylweddol at ddatblygu a lledaenu ffurfiau llywodraethu aml-lefel.
Ar ben hynny, awgrymir y gall cymunedau epistemig wella cyfreithloni polisi mewn systemau llywodraethu aml-lefel (MLG) drwy annog ffurfiau llywodraethu cyfranogol a sybsidiaredd, yn enwedig mewn achosion o ddewisiadau polisi amrywiol rhwng dau grŵp hunaniaeth.
Byddaf yn defnyddio ymagwedd astudiaeth achos gymharol a model achosion 'mwyaf tebyg', sy'n cynnwys cyfweliadau lled-strwythuredig helaeth gydag ystod o gyfranogwyr, wedi'u cefnogi gan ddulliau olrhain proses. Mae meysydd yr astudiaethau achos yn ymwneud â deddfwriaeth treftadaeth ddiwylliannol ddiweddar yng Nghymru a Québec yn eu tro.
Yn ddamcaniaethol, nod y gwaith hwn yw dangos perthynas lle mae cymunedau epistemig a llywodraethu aml-lefel yn atgyfnerthu ei gilydd, lle mae'r cyntaf yn sbardun esblygiadol posibl i'r olaf.
Yn ymarferol, gobeithiaf ddangos goblygiadau dyfnach cyfranogiad arbenigwyr mewn gwaith llunio polisi cyhoeddus, gan ddylanwadu ar ddadlau ynghylch rôl a gwerth arbenigwyr.