Manylion am yr Ymchwil
ADRAN/MAES PWNC - Ieithoedd Tramor Modern (Astudiaethau America Ladin)
GORUCHWYLIWR/GORUCHWYLWYR - Dr Lloyd Hughes Davies a Dr Federico Lopez-Terra
GRADD YMCHWIL (PhD/M.Phil/MA drwy Ymchwil) - PhD
TEITL Y TRAETHAWD YMCHWIL - Rosas and Perón in the Contemporary Argentine Novel
Crynodeb o'r Ymchwil
Ar ôl ennill gradd BA Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Ffrangeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Abertawe, rwyf bellach yn astudio am PhD mewn Astudiaethau Diwylliannol America Ladin. Am nifer o ddegawdau, mae cyn-arlywydd poblyddol yr Ariannin, Juan Domingo de Perón, wedi'i gysylltu â'r unben Ffederalaidd drwgenwog o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, Juan Manuel de Rosas. Mae'r safbwynt hanesyddol rhyddfrydol swyddogol yn mynnu bod llywodraeth Perón yn 'ail ormes', y gyntaf oedd llywodraeth Rosas, ond mae'r honiad hwn yn anghywir i raddau helaeth.
Er gwaethaf y cyffelybiaethau amlwg, mae cefnogwyr ac archelynion y ddau ddyn yn defnyddio'r cyffelybiaethau i atgyfnerthu eu hagendâu gwleidyddol eu hunain. Felly, mae fy mhrosiect yn archwilio'r cymariaethau credadwy rhwng arweinwyr gwleidyddol mwyaf dadleuol yr Ariannin, gan ganolbwyntio ar gynrychiolaethau llenyddol y ddau unigolyn mewn cyfres o weithiau ffuglennol a hanesyddol.