Rhaglen Ymchwil Ysgrifennu Creadigol
NAME: Susanne Roesner
DEPT/SUBJECT AREA: Rhaglen Ymchwil Ysgrifennu Creadigol
SUPERVISOR(S): Dr Anne Lauppe-Dunbar a Dr Chris Pak
RESEARCH DEGREE (PhD/MPhil/MA by Research): PhD
THESIS TITLE: Using Creative Writing to Imagine and Explore a Sustainable, Optimistic Path into the Future
Crynodeb o'r Ymchwil
Mae'r argyfwng newid yn yr hinsawdd yn un o heriau byd-eang mwyaf ein hoes gan ddatgelu cysylltiad uniongyrchol rhwng y ffordd mae dynoliaeth yn trin ein planed a lles pob un ohonom ni. Mae angen brys am newidiadau helaeth ond, er enghraifft, mae allyriadau carbon deuocsid a nwyon tŷ gwydr yn parhau i gynyddu. Gall newyddion fel hyn achosi teimladau llethol o orbryder a meithrin barn besimistaidd a dystopaidd ynghylch ein dyfodol. Mae fy nhraethawd ymchwil yn ymchwilio i ffyrdd o'n helpu ni i ddychmygu llwybr sydd, yn y pen draw, yn llawn gobaith ond sydd hefyd yn llwybr dichonol at y dyfodol.
Mae syniadaeth ecolegol ac astudio perthnasoedd rhwng bodau dynol a byd natur wedi bod yn draddodiad hirsefydlog wrth adrodd straeon, lle gall materion cymhleth gael eu hail-fframio a'u trawsnewid yn naratifau personol grymus a mwy hygyrch. Ar gyfer fy ngradd PhD, rwy'n ysgrifennu ac yn archwilio nofel a'r nod yw goleuo a distyllu datblygiadau presennol mewn technolegau a phwysleisiau ar gysyniadau traddodiadol o ffyrdd ecolegol o fyw. Fy nod yw archwilio'r senario llethol o fyd sy'n newid ac ail-fframio'r trychinebus trwy ail-ddychmygu cadarnhaol.
Yn fy nofel, mae menyw ifanc yn wynebu canlyniadau’r argyfwng hinsawdd wrth i danau gwyllt ffyrnig beryglu bywydau a chartref ei mam-gu a'i thad-cu. Mae hi'n cychwyn ar daith i ymchwilio i atebion arfaethedig a gyflwynir fel dyfeisiau llawn gweledigaeth a ffyrdd gwahanol o fyw. Gan frwydro ei gorbryder ei hun, mae hi'n chwilio am ei phwrpas a ffordd o gyfrannu at ddyfodol sy'n llawn gobaith. Wrth iddi hi ddysgu ac ehangu ei gorwelion, yn yr un modd, rydyn ni hefyd.