Mae'r Grŵp Ymchwil Creu a Beirniadu (GYCB) yn trafod y berthynas gyd-ddibynnol rhwng ysgrifennu creadigol a beirniadol. Gall syniadau beirniadol ysgrifenwyr creadigol gweithredol, sy'n deillio o brofiad personol o'r broses ysgrifennu, gael eu colli gan ysgolheigion sydd efallai am sefydlu gwrthrych astudio beirniadol yn eu meysydd. I'r gwrthwyneb, mae'n bosib na fydd cyw ysgrifenwyr yn ymwybodol o syniadau damcaniaethol am ddehongli testunau sy'n seiliedig ar wybodaeth am hanes llenyddol a beirniadaeth ddiwylliannol, er y gall syniadau o'r fath fod yn 'greadigol'.

Mae'r grwp creadigol-beirniadol hwn yn fforwm rhyngddisgyblaethol er budd y gymuned ymchwil yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol a'r tu hwnt iddi. Cenhadaeth y GYCB yw: 
  • darparu cartref a ffenestr siop ar gyfer allbynnau sylweddol ysgrifennu creadigol.
  • trefnu grwpiau trafod, paneli, darlithoedd gwadd, byrddau crwn, cyflwyniadau a chyfweliadau wedi'u harwain gan ymchwil/ymarfer a fydd yn darparu cydlyniad deallusol i'n cymuned ffyniannus o fyfyrwyr PhD.
  • datblygu partneriaethau â diwydiannau creadigol gan gydweithio'n agos â'r Sefydliad Diwylliannol.
  • darparu canolbwynt rhyngddisgyblaethol yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol (ac, o bosib, rhwng Cyfadrannau) i'r rhai sy'n gweithio ym maes ysgrifennu creadigol (gan gynnwys y cyfryngau), ymarfer creadigol-beirniadol a/neu ymarfer beirniadol.
  • mewn partneriaeth â'r Sefydliad Diwylliannol, cefnogi cyfleoedd rhwydweithio a datblygu gyrfa i'r rhai sy'n gweithio mewn meysydd creadigol (staff ac ôl-raddedigion).
  • darparu fforwm lle gall y gymuned gynyddol o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ym maes ysgrifennu creadigol gydweithio â rhwydwaith rhyngddisgyblaethol o staff.
  • eirioli dros gyllid i'r celfyddydau.
  • gweithio mewn partneriaeth agos â'r Sefydliad Diwylliannol i ddarparu amrywiaeth o ddigwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd ac allgymorth ar gyfer cynulleidfaoedd targed amrywiol, gan gynnwys y posibilrwydd o gynnwys rhagor o ddigwyddiadau beirniadol-greadigol yn y dyfodol.

Prosiectau

Addasiadau

Trafodaeth am y grefft o addasu, yn amrywio ar draws sgrin, radio, a diwylliant poblogaidd.

After Rilke Straeon Tylwyth Teg a Chwedlau Arswyd a'r Tabŵ Cof

Pobl

Mae'r Grŵp Ymchwil Creu a Beirniadu (GYCB) yn fforwm cyfnewid syniadau i ysgrifenwyr o bob lliw a llun: beirdd, nofelwyr, ysgrifenwyr straeon byrion, dramodwyr, beirniaid llenyddol, ysgolheigion, ysgrifwyr a newyddiadurwyr. Mae'r grŵp yn archwilio ymarfer cyd-gysylltiedig darllen beirniadol ac ysgrifennu beirniadol mewn cyfres o gyfarfodydd rheolaidd drwy gydol y flwyddyn academaidd. Rydym hefyd yn rhyngweithio â'r diwydiannau creadigol sydd, drwy'r Sefydliad Diwylliannol a phartneriaethau adrannol, yn cyflwyno’r ysgrifennu hwn i'r cyhoedd yn ei holl ffurfiau.

Bwrdd Rheoli: Dr Alan Bilton a Dr Richard Robinson (Cyd-drefnwyr), Dr Elaine Canning, yr Athro Kirsti Bohata, yr Athro Julian PreeceDr Joanna Rydzewska, yr Athro Tudur Hallam a Dr Alexia Bowler.

Cyd-cyfarwyddwyr

Mae Dr Alan Bilton yn academydd ac yn nofelydd sy'n darlithio mewn Astudiaethau Americanaidd a Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n awdur dwy nofel o natur swrealaidd a naws breuddwyd, The Sleepwalkers’ Ball (2009) a gyhoeddir gan y wasg Gymreig annibynnol, Alcemi, ac Unknown Sea (2014), ynghyd â'r casgliad straeon byrion, Anywhere Out of the World (2016). 

Dr Alan Bilton
Alan Bilton

Cyd-cyfarwyddwyr

Athro Cysylltiol yn Adran Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe yw Dr Richard Robinson. Mae'n gweithio ym maes ysgrifennu cyfoes yn yr ugeinfed ganrif, ac mae diddordeb arbennig ganddo mewn moderniaeth a moderniaeth hwyr, Astudiaethau Gwyddelig, astudiaethau ar ffiniau (yn benodol, gynrychioliadau o Ganol Ewrop), ac agweddau ar ffilm a ffuglen Eidalaidd. 

Dr Richard Robinson.
Richard Robinson

Cyhoeddiadau Academaidd

llyfrau

Myfyrwyr PhD sydd wedi cymryd rhan mewn CCPRG:

myfyrwyr yn llyfrgell
Myfyrwyr PhD Prosiect
Sarah Tanburn  Taking Liberty 
Owen Bridge   Twittering Machines 
Oliviah Rix-Taylor   Dystopian Fiction: The Midnight Castle 
Tamzin Whelan  A Novel of the Women’s Revolution 
Sue Dickson  Portrait of a Muse    
Vicky Brewster   Hauntings in 21st Century Fiction 
Susanne Rösner  Using Creative Writing to Imagine and Explore a Sustainable, Optimistic Path into the Future 
Seren Williams  Translating Culture-Specific References in French and German Dubs of Disney Films 
Jan Wigley   Sugar and Spice and All Things 
Daniel Mitchell  Fair: A Radio Drama 
Julie-Ann Rees  How Ancient and Modern Stories Help us to Heal 
Ray Cluley   Marilyn, Marilyn is now Marilyn/Marilyn 
Rachael Llewellyn  A Novel: The Crow 

Newyddion a Digwyddiadau

myfyrwyr ar campws singleton