Canolfan ymchwil i lên ac iaith Saesneg Cymru yw CREW. Ymysg y meysydd ymchwil mae cenedlaetholdeb, amlieithrwydd a chyfieithu, llenyddiaeth gymharol, astudiaethau ôl-drefedigaethol, ysgrifennu cwîyr, hanes diwylliannol, llenyddiaeth broletaraidd, astudiaethau anabledd ac astudiaethau canoloesol.

 

Maer gyfres Writing Wales in English (a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru) wedii golygu yn CREW yn ogystal â'r gyfres o glasuron a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, The Library of Wales.

Mae CREW yn rhedeg cwrs MA ar Lenyddiaeth Saesneg Cymru, rhaglen PhD ac yn croesawu ceisiadau gan ysgolheigion sydd am ymweld ar gyfnod ymchwil.

 

Pobl

Cyd-gyfarwyddwr

Mae’r Athro Daniel G. Williams yn feirniad diwylliannol ac yn un o ddeallusion cyhoeddus blaenllaw Cymru. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn amrywio o'r 19eg ganrif hyd heddiw ac yn cwmpasu llenyddiaethau Cymraeg a Saesneg ar ddwy ochr yr Iwerydd. Mae'r diddordebau hyn yn cael eu cysylltu â’i ddiddordeb mewn cenedlaetholdeb, ethnigrwydd a hunaniaeth.

Athro Daniel Gwydion Williams
Daniel Williams

Cyd-gyfarwyddwr

Mae'r Athro Kirsti Bohata yn ysgolhaig blaenllaw ym maes Llenyddiaeth Saesneg Cymru, ac mae hi wedi cyhoeddi ar ddamcaniaeth ôl-drefedigaethol, llenyddiaeth cwiar, astudiaethau anabledd a daearyddiaeth lenyddol o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg tan y presennol. Ei llyfr diweddaraf yw Disability in Industrial Britain (Manchester University Press, 2020) sy'n gyhoeddiad mynediad agored llawn.

Athro Kirsti Bohata
Professor Kirsti Bohata

Prosiectau a Chyhoeddiadau

LLyfrau
  • BWLET 
  • The Raymond Williams Papers 
  • The Richard Burton Archive 
  • The Ron Berry Papers 
  • The Alun Richards Papers 
  • The Archive of Welsh English: David Parry SAWD Archive
  • CREW Bibliography 
  • The Annotated Bibliography of the Anglo-Welsh Short Story 
The Library of Wales 
The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales
CREW Monograph Series: Writing Wales in English 
The Dillwyn Project