Mae Gauri Viswanathan yn Athro yn yr Adran Saesneg a Llenyddiaeth Gymharol ym Mhrifysgol Columbia, Efrog Newydd. Hi yw awdur Masks of Conquest: Literary Study and British Rule in India (1989) ac Outside the Fold: Conversion, Modernity and Belief (1998).
Roedd papur yr Athro Viswanathan yn rhan o ‘Imperial Subjects: (Post)colonial Conversations between South Asia and Wales’ a gynhaliwyd yn rhithiol ym mis Mai 2020 ac a drefnwyd gan Oriel Gelf Glynn Vivian, Rhwydwaith Celf Prydain, a’r Dr Zehra Jumabhoy, Darlithydd Cysylltiol yn y Courtauld Institute of Art, Llundain.
Drwy gyd-weithio â'r Athro Daniel G. Williams, Prifysgol Abertawe, nod y gyfres oedd herio naratifau ystrydebol am Brydain, De Asia a gwladychiaeth.
Cynhaliwyd y seminarau yn Saesneg. Mae pob seminar wedi’i recordio ac maent ar gael i’w gweld ar sianel YouTube y Glynn Vivian [https://www.youtube.com/playlist?list=PLWit3Ug-16HTJ6JSvZvYsaDOYzrG4cxxV]. Mae trawsgrifiad llawn hefyd ar gael yn Saesneg a Chymraeg. Ariennir y gyfres seminarau hon gan raglen Rhwydwaith Celf Prydain sydd yn cael ei arwain a’i gefnogi gan y Tate a’ r Paul Mellon Centre for Studies in British Art, gydag arian cyhoeddus ychwanegol yn cael ei ddarparu gan y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Lloegr.
Cyflwynodd yr Athro Gauri Viswanathan bapur ar Raymond Williams a’r ‘arall mewnol’ a’r ‘arall allanol’. Y papur oedd y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau yn ymwneud â Raymond Williams a drefnwyd gan Daniel G. Williams a'r Ganolfan Ymchwil i Lenyddiaeth ac Iaith Cymru (CREW) rhwng 2020 a 2021.
Imperial Subjects: Gwybodaeth
https://www.glynnvivian.co.uk/whats-on/imperial-subjects-seminar-series/
https://www.tate.org.uk/whats-on/online-event/conference/imperial-subjects
https://www.swansea.ac.uk/press-office/news-events/news/2020/05/imperial-subjects-wales-and-south-asia--digital-discussion-a-big-success.php