Am bron dau ddegawd, mae GENCAS wedi bod ar flaen y gad o ran gwaith ar rywedd ym Mhrifysgol Abertawe, gan ddod ag ysgolheigion ynghyd mewn fforwm sy'n pontio rhaniadau rhwng disgyblaethau. Mae GENCAS yn darparu lle i drafod a chefnogi staff, myfyrwyr, gweinyddwyr ac eraill sy'n gweithio yn y Brifysgol y mae eu diddordebau ymchwil yn cynnwys materion rhywedd. Mae ysgolheigion sy'n gysylltiedig â'r Ganolfan yn gweithio ar feysydd amrywiol sy'n cynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt, ymagweddau a lensys rhywioldeb, ffeministiaeth a queer.

Mae gennym ddiddordeb penodol mewn annog safbwyntiau croestoriadol drwy gyflwyno materion sy'n ymwneud â rhywedd i ddeialog fuddiol gyda materion pwysig eraill megis hil, dosbarth ac anabledd.  Mae'r Ganolfan hefyd yn meithrin ac yn cynnal rhwydwaith o gysylltiadau â grwpiau ymchwil perthnasol gartref a thramor, yn ogystal â chefnogi ymrwymiad y brifysgol i gydraddoldeb rhwng y rhywiau ar draws y gymuned academaidd. Mae GENCAS yn awyddus i gefnogi digwyddiadau, cyhoeddiadau a chymunedau sy'n datblygu o amgylch thema rhywedd, ac yn croesawu'n gynnes gyfranogiad gan staff a myfyrwyr.

Pobl

Cyd-gyfarwyddwr

Mae gwaith Dr Sarah Crook ar hanes Prydain fodern ac mae gennyf ddiddordeb penodol mewn hanes menywod, hanesion myfyrwyr a hanes meddygaeth. Mae ei monograff cyntaf, Postnatal depression in postwar Britain: Women, motherhood, and social change (MUP), yn archwilio sut daeth heriau bod yn fam i'r amlwg ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Mae ei ymchwil bresennol, ar gyfer ei ail fonograff, Student Mental Health in Modern Britain, yn archwilio hanes iechyd meddwl myfyrwyr.

Dr Sarah Crook
https://www.swansea.ac.uk/staff/s.r.e.crook/

Cyd-gyfarwyddwr

Mae diddordebau Charlotte ym meysydd rhywedd, rhywioldeb, anabledd ac iechyd, yn enwedig lle mae’r meysydd hyn yn gorgyffwrdd. Mae ei phrif ddiddordeb ymchwil yn canolbwyntio ar ddamcaniaethu a meddygoli rhyw. Mae'r gwaith hwn yn archwilio  profiadau pobl ag amrywiadau o ran nodweddion rhyw neu nodweddion rhyngrywiol, gyda phwyslais ar gydnabyddiaeth, gofal a chyfiawnder.

Dr Charlotte Jones
Dr Charlotte Jones