Mae Canolfan Ymchwil y Canol Oesoedd a'r Cyfnod Modern Cynnar (MEMO) yn dwyn ynghyd ysgolheigion ym Mhrifysgol Abertawe sy'n gweithio ym meysydd llenyddiaeth, hanes, ieithoedd Ewropeaidd ac astudiaethau clasurol, gan gwmpasu'r cyfnod rhwng 300 a 1800 OC.

Prosiectau

Dr Simon John

‘The Crusades and Apocalyptic Thought in the Middle Ages’

Prosiect ymchwil a ddechreuwyd fel Cymrawd yng Nghanolfan Astudiaethau Apocalyptig ac Ôl-Apocalyptaidd Käte Hamburger, Prifysgol Heidelberg (Hydref 2022 – Ionawr 2023).

‘Exegesis, Sermons, Liturgy: New Pathways in Crusade Studies’, gyda Dr Wolf Zöller (Saarbrücken) a Dr Alexander Marx (Fiena)

Cynhadledd, a arweiniodd at gyfrol wedi'i golygu, a ddechreuwyd pan oedd yn Gymrawd yng Nghanolfan Astudiaethau Apocalyptig ac Ôl-Apocalyptig Käte Hamburger, Universität Heidelberg (Hydref 2022 – Ionawr 2023).

Dr Laura Kalas Dr Alex Langlands Professor Daniel Power

Pobl

Cyd-gyfarwyddwr

Mae ymchwil yr Athro Daniel Power yn ymwneud â hanes Ffrainc a Phrydain yn yr Oesoedd Canol canolig (yn enwedig y deyrnas Eingl-Normanaidd, Ymerodraeth brenhinoedd Angefin, a Ffrainc yn y cyfnod Capetaidd), a chymdeithasau chyffinwledydd canoloesol. Mae ei gyhoeddiadau blaenorol yn cynnwys The Norman Frontier in the Twelfth and Early Thirteenth Centuries(Caergrawnt: Cambridge University Press, 2004).

Yr Athro Daniel Power
Daniel Power

Cyd-gyfarwyddwr

Mae Dr Emma Cavell yn arbenigwr ym maes hanes cymdeithasol Prydain, yn enwedig Cymru a Lloegr, yn ystod cyfnod canol yr Oesoedd Canol (c.1000-1300). Rwy'n ymddiddori'n benodol yn nylanwad y cysylltiadau rhwng rhywedd, lleoliad a dosbarth ar weithredoedd a phrofiadau aelodau benywaidd teuluoedd blaenllaw'r Gororau cyn goresgyn Cymru ym 1282, a chan brofiadau ymgyfreithwyr benywaidd Iddewig yn Lloegr y canoloesoedd cyn yr Alltudiad (1290). 

Dr Emma Cavell
Dr Emma Cavell

Cyhoeddiadau Academaidd

LLyfrau

Myfyrwyr PhD sydd wedi cymryd rhan yn MEMO:

Myfyrwyr yn Llyfrgell

Ein Newyddion a Digwyddiadau

Campws singleton

Gwobrau a’n Grantiau

Campws Singleton

Simon John: Cymrodoriaeth pedwar mis wedi'i hariannu yng Nghanolfan Astudiaethau Apocalyptig ac Ôl-Apocalyptaidd Käte Hamburger, Prifysgol Heidelberg, a ddyfarnwyd ym mis Rhagfyr 2021.

Simon John: Yr Academi Brydeinig/Leverhulme, Grant Ymchwil Bach, a ddyfarnwyd ar y cyd â chronfa Elizabeth Barker, ar gyfer y prosiect 'Contested Pasts: public monuments and historical culture in Western Europe, 1815-1930’ in 2019-21.

Matthew Stevens: ‘Ethnicity, law, urban development and identity: a comparative study of medieval Wales and Prussia’; Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer Cyfnewid Academaidd, Gwlad Pwyl (Narodow Agencja Wymiany Akademickiej). 2019 – 2021. Mae hon yn Gymrodoriaeth Ulam mawr ei bri, gan Asiantaeth Genedlaethol Cyfnewid Academaidd Gwlad Pwyl, wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Nicolaus Copernicus, Toruń. £49,400.