Cartref Clirio yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol

Rydym yn eich gwahodd i ddysgu rhagor am yr ystod amrywiol a chyfoethog o bynciau sydd ar gael yn ein cyfadran.

P'un a ydych yn frwdfrydig am Fusnes, Troseddeg, Hanes, y Gyfraith, Gwleidyddiaeth neu unrhyw faes arall yn y Gyfadran, mae ein cyrsiau wedi'u llunio i ysbrydoli meddwl yn feirniadol, annog creadigrwydd a rhoi'r sgiliau y mae eu hangen arnoch chi i ffynnu yng ngweithle deinamig y byd sydd ohoni. 

Yn gyntaf, Paid â Phanicio, Rydym Yma i Helpu

Efallai nad ydych wedi cael y canlyniadau roeddech yn gobeithio amdanynt, neu efallai eich bod wedi newid eich meddwl munud olaf am eich dyfodol, ond nid yw hyn yn golygu na allwch barhau i astudio ym Mhrifysgol Abertawe yr hydref hwn. Rydym yma i helpu, a byddwn yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i sicrhau eich lle yn y brifysgol drwy Glirio. Efallai ei bod yn ymddangos fel pe bai'n amser pryderus iawn ar hyn o bryd, ond yn bendant nid yw dod trwy Glirio yn sillafu diwedd eich gyrfa.

Beth sydd ei angen arnat ar gyfer Clirio?

Hoffem eich helpu i gymryd rhywfaint o'r straen allan o Glirio, felly rydym wedi ateb rhai ymholiadau cyffredin ac wedi darparu rhywfaint o wybodaeth ychwanegol, gobeithio, i'ch helpu i baratoi ar gyfer Clirio a gwneud y gorau o'r broses.

Mannau Clirio Ar Gael yn y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol

Archwiliwch yr Ysgolion a'r meysydd pwnc isod a dewch o hyd i'ch cwrs

Yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu

Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton

Yr Ysgol Reolaeth

Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol

Clywed gan Alistair Dickson

IMAGE OF STUDENT

‘Penderfynais i ffonio llinell gymorth Clirio Prifysgol Abertawe, a ches i fy nghysylltu ag un o fyfyrwyr presennol Prifysgol Abertawe; gwnaeth fy helpu i lenwi fy nghais. Pan ddaeth yr alwad ffôn i ben, roedd fy nghais i astudio ym Mhrifysgol Abertawe wedi cael ei dderbyn!

Yna, ces i wahoddiad i Ddiwrnod Agored Clirio yn y Brifysgol, lle roeddwn i'n gallu cael taith dywys o gwmpas y campws, ynghyd â chael sgwrs â darlithwyr a myfyrwyr am y cwrs.Gwnaeth hyn fy helpu i deimlo'n fwy hyderus am fy mhenderfyniad i astudio ym Mhrifysgol Abertawe ac roeddwn i'n teimlo'n eiddgar i gychwyn arni o'i herwydd.’

Clywed gan Hrisha Ramjee

IMAGE OF STUDENT

'Ces i brofiad cadarnhaol iawn gyda Phrifysgol Abertawe. Roedd yr aelod o staff siaradais i ag ef yn gymwynasgar ac yn gwrtais iawn. Roeddwn i wedi gallu astudio'r cwrs roeddwn i am ei astudio ac roeddwn i'n fodlon â'r canlyniad. Pan gefais i’r  cynnig, gwnaeth y brifysgol yn siŵr bod gen i'r wybodaeth angenrheidiol i fynd rhagddo.

Un o'r prif resymau dewisais i Brifysgol Abertawe oedd y cwrs a oedd yn cael ei gynnig. Roeddwn i am astudio Economeg a Chyllid ac nid oedd y prifysgolion eraill roeddwn i wedi'u hystyried gyda chlirio yn cynnig Economeg a Chyllid gyda'i gilydd fel gradd.'

Archwilio mwy am Glirio yn Abertawe