Teresa Zawieja, Swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Myfyrwyr
Heb os, mae gwledydd Ewrop wedi cymryd cam mawr tuag at barchu hawliau'r gymuned LGBTQ+ dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae llawer o feysydd o hyd y dylid eu gwella o ran cydraddoldeb.
Mae tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth, a Chynhwysiant Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol wedi trefnu digwyddiad i'w staff er mwyn eu helpu i ddeall pa broblemau mae'r gymuned LGBTQ+ yn eu hwynebu mewn ysgolion ac mewn prifysgolion, a sut gellir gwella'r profiadau hynny. Darparwyd yr hyfforddiant gan y sefydliad Stonewall a'i gyflwyno gan Joanna Murphy. Rhannwyd y cyfarfod cyfan yn dair rhan: Deall, Archwilio a Chamau Gweithredu.
Roedd y rhan gyntaf, Deall, yn seiliedig ar esbonio termau sylfaenol ar gyfer disgrifio eich hunan, megis Rhyw wedi'i Neilltuo ar Enedigaeth, Cisryweddol neu Drawsnewid, ond hefyd ar esbonio'r gwahaniaethau rhwng Mynegiant Rhywedd, Hunaniaeth Rhywedd a Chyfeiriadedd Rhywiol. Roeddwn yn meddwl ei fod yn gyflwyniad gwych, oherwydd yn gyntaf dangoswyd y term i ni a chawsom ein hannog i'w egluro yn ein geiriau ein hunain ac yna cawsom weld y disgrifiad a ddarparwyd gan sefydliad Stonewall. Yn ffodus, gallaf eich sicrhau y cafodd pob un o'r cwestiynau ei ateb yn gywir hyd yn oed cyn i ni allu gweld yr ateb. Ar ben hynny, roedd Joanna yn agored iawn i gwestiynau, felly pan ddaethom yn llai swil i ofyn am ddefnyddio rhai termau, atebodd yn amyneddgar ac esbonio geiriau llai adnabyddus. Gwnaeth bwynt gwych hefyd wrth ddweud, wrth gwrs, ei bod yn iawn gwneud camgymeriadau, ond os ydym am ofyn am hunaniaeth rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol rhywun, yn bendant dylem ystyried a yw'n briodol gofyn a sut mae gwneud hynny, ac ni ddylem byth geisio dyfalu hunaniaeth rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol rhywun dim ond drwy weld eu mynegiant rhywedd. Ffordd wych o ddysgu pob term sy'n gysylltiedig â Rhywedd a Chyfeiriadedd Rhywiol yw edrych ar yr esboniadau sydd wedi'u paratoi gan sefydliad Stonewall - Termau Cymraeg ar gael yn https://www.stonewallcymru.org.uk/cy/cymorth-chyngor/geirfa.
Ar ôl ymgyfarwyddo â'r termau, symudon ni ymlaen i ail ran y cyfarfod – Archwilio. Cyflwynodd Joanna ychydig o ystadegau i ni am brofiad y gymuned Draws mewn ysgolion ac, a bod yn onest, roeddwn yn gobeithio y byddent yn well, felly mae llawer i'w wella o hyd. Mae llawer o rannau o'n bywydau yn hynod ryweddol ac fel arfer nid yw pobl cisryweddol yn sylwi ar hynny, gan nad ydynt gan amlaf yn mynd y tu hwnt i reolau a sefydlwyd gan y gymdeithas. Mae llawer o leoedd y gellir eu hystyried yn hunllef i bobl draws, megis ysgolion, ysbytai, tafarndai ac ati, gan fod rhaid iddynt ddewis a ddylid dilyn yr hyn maent yn ei deimlo neu ddisgwyliadau'r gymdeithas. Agwedd arall y profiad yw cwestiynau a sylwadau. Mae Joanna wedi cyflwyno enghreifftiau o ymddygiadau trawsffobig a allai ddigwydd mewn ysgolion ac mewn prifysgolion, ond hefyd mewn bywyd pob dydd. Yn eu plith roedd cwestiynau am driniaethau meddygol a llawfeddygol, dim ymdrech i ddysgu rhagenwau rhywun, neu ddatgelu hunaniaeth rhywedd rhywun heb ei ganiatâd. Rwyf yn credu y gallwn i gyd gytuno bod y math hwn o ymddygiad yn annerbyniol, a'n cyfrifoldeb ni hefyd yw ei weld ac ymateb iddo.
Yn y rhan olaf, Camau Gweithredu, dysgom beth gall cyfeilion y gymuned ei wneud i wella profiad pobl draws ym myd addysg. Mae llawer o bethau y gallwn eu gwneud, o bethau hawdd iawn megis cynnwys ein rhagenwau mewn e-byst, neu mewn cyfarfodydd Zoom, mynegi bod eich dosbarth ar agor i bawb, waeth beth yw eu hunaniaeth neu fynegiant rhywedd, ac os oes pryderon gan unrhyw un ar unrhyw adeg, pwysleisio bod croeso iddynt siarad â chi, i wneud newidiadau ar y lefelau uwch, fel llunio polisïau AD priodol ac annog eich myfyrwyr a'ch cydweithwyr traws i achub ar gyfleoedd newydd. Fel cyfaill, mae'n bwysig iawn gwrando ar y gymuned a gadael i'w haelodau fynegi barn ac awgrymu newidiadau.
Yn y diwedd, esboniodd Joanna awgrymiadau gwych i ehangu ein gwybodaeth hyd yn oed yn fwy. Byddaf yn eu rhestru yn yr union un drefn y gwnaeth eu cyflwyno:
• Netflix: Disclosure, Sense8, Pose, Tales of the City, Drag Race UK, Dragnificent, Feel Good.
• Rhaglenni Teledu eraill: Veneno, Transparent, Euphoria.
• Ffilmiau: Paris is Burning, No Ordinary Man: The Billy Tipton Story, Keyboard Fantasies, By Hook or By Crook, A Fantastic Woman, Something Must Break.
• Comedi/Perfformwyr: Mae Martin, FOCitup, Travis Alabanza.
• Podlediadau: One From the Vaults, Bad Gay, What the Trans?!, Marsha’s Plate.
• Gweithredwyr/dylanwadwyr: Fox and Owl Fisher, Juno Dawson, Munroe Bergdorf, Kuchenga, Liv Little/GalDem, Lady Phyll, Kenny Ethan Jones.
• Llyfrau: Shon Faye The Transgender Issue, Susan Stryker Transgender History, Shola von Reinhold Lote, Janet Mock Redefining Realness.
Rwyf yn credu ein bod ni i gyd yn gwybod na fydd hyfforddiant neu gyfarfodydd fel hynny yn newid y byd yn llwyr, ond maent yn hanfodol er mwyn i'r newid hwn ddigwydd, a gallant wella profiad pobl draws mewn ysgolion ac mewn prifysgolion a hefyd ein gwneud ni i gyd yn fwy ymwybodol o'r heriau maent yn eu hwynebu mewn bywyd pob dydd.
Adolygiad gan Teresa Zawieja, Swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Myfyrwyr, 29 Mehefin 2022