Datganiad Allyship
Ym mis Hydref 2018 cyhoeddodd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol adroddiad ar ‘Hil, Ethnigrwydd a Chydraddoldeb’. Roedd yn archwiliad manwl o’r darlun yn adrannau Hanes Prifysgolion Prydain. Roedd y canlyniadau yn frawychus os nad yn syndod. Galwyd am fwy o amrywiaeth, a hynny i ddigwydd ar frys. Ni ellir dadlau â’r rhifau: dim ond 11% o fyfyrwyr Hanes sy'n dod o gefndiroedd BAME; mae cwricwla i raddau helaeth yn eithrio lleisiau amrywiol, ac mae 96.1% o haneswyr ar draws Prifysgolion Prydain yn wyn (y mae llai nag 1% ohonynt yn Ddu). Nid yw hanes yn eithriad yn y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgolion y Deyrnas Gyfunol: i'r gwrthwyneb. Ac yn anffodus nid yw ein Hysgol ni, yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Abertawe, yn ddim gwahanol.
Nod ein hymgyrch ar gyfer Mis Hanes Pobl Ddu yw arddangos y gwaith ysgolheigaidd y mae rhai o'n cydweithwyr yn ei wneud ar hanes a diwylliant grwpiau sy'n parhau i fod heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein hystafelloedd dosbarth, er gwaethaf pa mor ganolog ydynt i’n hanes lleol ac i hanes y byd. Mae'r ymgyrch yn anelu i fod yn weithred o gynghreirio ac ymgysylltu. Mae wedi ei wreiddio yn yr ymwybyddiaeth o natur amrywiol Cymru ac yn y gred mae cymunedau Du cyfoes fydd â’r hawl i benderfynu a fu’n llwyddiannus.