Cwestiwn 1
Pwy, yn eich barn chi, yw'r bobl bwysicaf yn Hanes Pobl Dduon ym Mhrydain?
Yn ogystal ag astudio unigolion megis Olaudah Equiano, Althea Jones-Lecointe, C. L. R. James a Mary Seacole, mae'n bwysig archwilio hanes pobl Dduon fel rhan annatod o hanes Prydain, â phwyslais ar fywydau pobl Dduon gyffredin. Mae Peter Fryer, David Olusoga a David Dabydeen, ymhlith eraill, wedi archwilio bywydau pobl Dduon ym Mhrydain (yn eu holl amrywiaeth), o feddiannaeth y Rhufeiniaid ymlaen. Byddwn i'n argymell y nofel ar ffurf barddoniaeth gan Bernadine Evaristo, The Emperor's Babe (2021), sy'n ail-ddychmygu, mewn ffordd fythgofiadwy, fywydau'r Affricaniaid a oedd yn byw ym Mhrydain yn oes y Rhufeiniaid, gan gyfuno ymrwymiad ffeministaidd du dwfn â joi de vivre.
Cwestiwn 2
Sut gallwn ddysgu gan y gorffennol (gwladychiaeth, hiliaeth) er mwyn osgoi problemau o'r fath yn y dyfodol a sicrhau diogelwch pobl groenliw?
Yn ei hunangofiant, How to Lose Your Mother, mae'r ysgolhaig ffeministaidd Du, Saidiya Hartman, yn siarad am: ‘the afterlife of slavery – skewed life chances, limited access to health and education, premature death, incarceration and impoverishment. I, too, am the afterlife of slavery.’ Mae effaith anghymesur y pandemig ar gymunedau lleiafrifol, yn y DU a'r tu hwnt, yn tanlinellu natur frys ac ingol geiriau Hartman. Serch hynny, ceir tueddiad i danbrisio 'ôl-fywydau' gwladychu a chaethwasiaeth, a'r anghydraddoldebau strwythurol sy'n deillio ohonynt. Mae’n hanfodol parhau i ganolbwyntio ar hanesion o'r fath a'u hetifeddiaeth er mwyn datblygu dealltwriaeth fwy cynnil o hil a hiliaeth, ac i fynd i'r afael ag anghyfiawnder.
Cwestiwn 3
Pa ran o hanes pobl dduon sy'n agosaf at eich maes arbenigedd, ac a allwch chi ei ddisgrifio mewn ychydig eiriau?
Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar lenyddiaeth a diwylliant Affricanaidd America, yn enwedig Adfywiad Harlem, pan flodeuodd celfyddyd weledol, dawns, cerddoriaeth a llenyddiaeth gan bobl dduon yn yr Unol Daleithiau yn y 1920au a'r 1930au. Ar y cyd â'r Athro Miriam Thaggert (SUNY-Buffalo), yn ddiweddar golygais i ddwy gyfrol sy'n ceisio disgrifio a dadansoddi eclectigiaeth ac amrywiaeth mynegiant diwylliannol Affricanaidd America yn y cyfnod hwn, gan archwilio popeth o gylchgronau radicalaidd, dillad a lluniau mewn llyfrau i farddoniaeth y blŵs, décor cartrefi a sut roedd plant Duon yn cael eu darlunio.
Cwestiwn 4
Sut gallwn ni, fel cyfeillion y gymuned, atal gweithredoedd hiliol a chefnogi pobl groenliw?
Mae ymddygiad unigolion yn bwysig, yn enwedig mewn perthynas â gwrando ar brofiadau pobl, meithrin lleoedd cynhwysol a gwrthwynebu a herio gwahaniaethu. Ond nid yw hynny'n ddigonol. Mae hiliaeth yn strwythurol. Rhaid i wrth-hiliaeth unigol gyd-fynd â ffocws ar yr un pryd ar sefydliadau, rhaglenni gwleidyddol ac anghyfiawnder systemig.