Cwestiwn 1
Pa agweddau ar hanes LGBT+ rydych chi'n eu harchwilio yn eich gwaith ymchwil?
Mae fy ymchwil yn y bôn yn brosiect i adfer ac adennill hanesion cudd pobl ar gyrion cymdeithas yn yr Oesoedd Canol. Rwy'n cymhwyso damcaniaeth rhywedd gyfoes, yn enwedig damcaniaeth queer, i'r gorffennol canoloesol er mwyn rhoi llais i naratifau am unigolion anneuaidd yn ein hanesion llenyddol. Unwaith rydym yn agor ein cofnodion o’r gorffennol i hanesion LGBTQI+, gallwn hefyd newid sut rydym yn meddwl mewn ffyrdd radical, cyffrous a dybryd. Gallwn ryddhau ein hunain o faglau meddwl deuaidd caeedig (h.y. breintiedig) am bob math o faterion pwysig megis hil, anabledd, dosbarth ond hefyd amser a lle.
Cwestiwn 2
Sut newidiodd sefyllfa'r gymuned LGBTQ+ drwy ddechrau'r 21ain ganrif, yn eich barn chi?
Mae'r ystadegau am farwolaethau treisgar sy'n effeithio ar y gymuned LGBTQI+ ledled y byd yn hynod frawychus a thrist. Hyd yn hyn, ymddengys fod gwahaniaethu a marwolaeth yn gysgod cyson ar fywydaupobl LGBTQI+, yn enwedig yn y gymuned draws. Felly, mae angen parhau i wneud gwaith sylweddol o hyd. Serch hynny, ym mis Mai 2019, gwnaeth Sefydliad Iechyd y Byd ddad-seico-batholegu hunaniaethau traws a rhywedd amrywiol ac o ganlyniad, nid ydynt bellach yn cael eu hystyried yn feddygol fel math o glefyd. Gydag amser, bydd hyn yn cael gwared â'r cywilydd cymdeithasol o wyrni yn ogystal â chaniatáu iddyn nhw gael mynediad at ddarpariaeth gofal iechyd briodol pan fydd angen.
Cwestiwn 3
Sut y gall ffrindiau’r gymuned helpu pobl LGBTQ+ wrth ennill cydraddoldeb go iawn?
Gall ffrindiau helpu drwy:
a) archwilio, cydnabod a mynd i'r afael â'u braint gyda gweithredu cadarnhaol;
b) ymddiheuro am y loes a gafwyd gan y rhagfarn a grëwyd gan ein braint, ac yna gymryd camau gweithredu parhaus i unioni'r rhagfarn hon;
c) gwrando gyda thosturi, dysgu’n astud, osgoi bod yn amddiffynnol, canolbwyntio ar sut i wneud y gwaith fel nad yw'r gymuned LGBTQI+ yn gorfod ysgwyddo’r cyfrifoldeb am gydraddoldeb ar eu pennau eu hunain (ysgafnhau'r baich lle bynnag y bo'n bosib neu ymgymryd ag ef);
ch) disgwyl teimlo eu bod yn cael eu herio ac yn anghyfforddus: mae'n rhan o'r broses ddysgu a dadwneud hanesion hir o fraint; rhowch eich pen uwchlaw'r parapet os yw hi'n ddiogel gwneud hynny;
d) eirioli, amlygu a dathlu bywydau a hanesion LGBTQI+: Maen nhw’n wych!
dd) helpu i greu cymunedau llawn hapusrwydd, caredig a chynhwysol lle gall pobl LGBTQI+ deimlo'n rhydd i fyw eu bywydau.
Cwestiwn 4
Sut gallwn ni frwydro yn erbyn pob ffobia?
Cydnabod y trawma; addysgwch eich hun; codwch lais; crëwch fannau diogel; ac, unwaith eto, dathlwch hanesion a bywydau cymunedau sydd wedi bod ar y gyrion hanes.