Cwestiwn 1
![Llyfrau llyfrgell](/cy/dyniaethau-a-gwyddoraucymdeithasol/cynwysoldeb/blog-myfyrwyr/pride-2021/professor-kirsti-bohata/KB-Q1.jpg)
Pa agweddau ar hanes LGBT+ rydych chi'n eu harchwilio yn eich gwaith ymchwil?
Rwy'n ymchwilio i lenyddiaeth LGBTQ+ o Gymru, yn benodol ffuglen Fictoriadd queer Amy Dillwyn, ac rwy'n olygydd llyfr newydd o straeon byrion queer o Gymru o'r enw Queer Square Mile. https://www.parthianbooks.com/products/queer-square-mile-hardback
Cwestiwn 2
![Balwnau enfys stryd, baneri a baneri](/cy/dyniaethau-a-gwyddoraucymdeithasol/cynwysoldeb/blog-myfyrwyr/pride-2021/professor-kirsti-bohata/KB-Q2.jpg)
Sut newidiodd sefyllfa'r gymuned LGBTQ+ drwy ddechrau'r 21ain ganrif, yn eich barn chi?
Mae dileu adran 28, creu priodas gyfartal (a phartneriaethau sifil cyfartal) i gyd yn newidiadau pwysig. Mewn cylchoedd academaidd a llenyddol, cafwyd llu o weithiau queer, gan awduron fel Mike Parker, Norena Shopland, Daryl Leeworthy ac eraill. Mae bywydau LGBTQ bob amser wedi bodoli yng Nghymru, ond erbyn hyn maen nhw'n llawer cliriach a gallwn ni eu dathlu yn eu holl amrywiaeth.
Cwestiwn 3
![Teils Scrabble - cydraddoldeb](/cy/dyniaethau-a-gwyddoraucymdeithasol/cynwysoldeb/blog-myfyrwyr/pride-2021/professor-kirsti-bohata/KB-Q3.jpg)
Sut y gall ffrindiau’r gymuned helpu pobl LGBTQ+ wrth ennill cydraddoldeb go iawn?
Nid wyf yn arbenigwr! Mae gwrando ar bobl LGBTQ+ a grwpiau pwysau, adeall pa bethau sy'n parhau i amharu ar gydraddoldeb. Bydd y rhain yn gorgyffwrdd yn aml â meysydd eraill o anghydraddoldeb ar gyfer grwpiau eraill.
Cwestiwn 4
![Rhes o siapiau fector gwrywaidd](/cy/dyniaethau-a-gwyddoraucymdeithasol/cynwysoldeb/blog-myfyrwyr/pride-2021/professor-kirsti-bohata/KB-Q4.jpg)
Sut gallwn ni frwydro yn erbyn pob ffobia?
Mae rhywbeth yn fy mhoeni ar hyn o bryd gan hyrwyddo cyfwerthedd moesegol rhwng agweddau wedi'u gwreiddio mewn rhagfarn, ofn neu gasineb a'r rhai hynny sy'n seiliedig ar gydraddoldeb a fframwaith hawliau dynol . Rwyf hefyd yn poeni am safon trafodaethau ar y cyfryngau cymdeithasol.Mae angen i ragfarn gael ei gwrthbrofi, ond ni fydd newid meddyliau'n digwydd drwy ymosodiadau geiriol.