Mae’r Frwydr i gael rhagor o gynrychioliadau mwy cytbwys
Fy enw i yw Sam Hobby, myfyriwr cyfryngau yn y drydedd flwyddyn yma ar gampws Singleton ac rwy’n anabl. Cefais fy ngeni gyda pharlys yr ymennydd ac felly mae’n rhaid imi ddefnyddio ffyn baglau i symud o amgylch. Heb os, bydd rhai ohonoch chi wedi fy ngweld yn rhyw ymlwybro tuag at fy narlith nesaf (neu dyma efallai fy synnwyr chwyddedig o fod yn hunanymwybodol sy’n siarad!). Peth diddorol imi hyd yn oed yw’r ffaith fy mod i wedi penderfynu ysgrifennu’r darn hwn a bod yn fentrus gan nad ydw i fel arfer mor eofn o ran rhannu fy nheimladau’n agored am fy anabledd fy hun, heb sôn am roi fy marn ynghylch sut mae anabledd yn cael ei gynrychioli weithiau. Fodd bynnag, dyma fi felly’n paratoi troedio (yn ofalus iawn) ar fy mocs sebon.
Y rhan fwyaf o’r amser rwy’n hoffi meddwl fy mod yn berson eithaf optimistaidd, rwy’n tueddu i bwyntio ac yna chwerthin am yr hyn sy’n fy ngwneud yn wahanol yn hytrach nag ildio iddo. Fodd bynnag, o bryd i’w gilydd bydd yr hunandosturi’n nofio i’r wyneb. Bydd pethau bach yn ysgogi hyn weithiau, megis peidio â gallu dal paned o goffi ar draws y campws heb gymorth neb neu fod yn arafach na phawb arall i gyrraedd darlithoedd. Fel y dywedais i, pethau bach ydyn nhw ond maen nhw yno. Serch hynny, ar y cyfan, pan fydda i’n cael diwrnod o’r fath, rwy’n rhoi naw wfft iddo ac nid yw’n mennu dim arna i. Fodd bynnag, yn gynharach eleni (cyn i’r byd gael ei droi’n un o ffilmiau Judge Dredd) dechreuais i fynd yn fwyfwy rhwystredig ynglŷn â’m sefyllfa nes imi ystyried y byddai torri fy nghoes chwith i ffwrdd yn ateb posibl i ‘fy mhroblem’. Ac yna dyma fi’n mynd cyn belled â breuddwydio am hyn hyd yn oed.
Yn ffodus, dw i ddim yn meddwl ar hyd y llinellau hyn bellach ac rwy’n teimlo llawer gwell oherwydd hyn. Y peth am hunandosturi yw ei fod yn gallu peri i fynd am dro yn y parc ymdebygu i farathon. Roeddwn i’n arfer meddwl y byddai popeth cymaint yn haws pe bawn i’n gallu gosod aelod artiffisial yn lle’r hyn a oedd gen i heb feddwl am eiliad am y llu o broblemau y mae trychedigion wedi’u dioddef. Roeddwn i’n arfer meddwl y byddwn i’n ymdebygu i’r Bionic Man neu’r Winter Soldier. Erbyn hyn mae hyn oll yn ymddangos mor hurt. Wrth reswm, nid yw hwn yn gyfystyr â dweud nad yw hi’n iawn i beidio â theimlo 100% drwy’r amser gan nad dyna yw sefyllfa'r un ohonon ni, ac mae’n bwysig nad ydyn ni’n caniatáu inni ein hunain deimlo euogrwydd oherwydd y teimladau hyn (rwy’n siarad o brofiad, sef magl mae’n hawdd syrthio iddi). Dylai hunandosturi atgoffa pob un ohonon ni am ein sefyllfa bresennol ac i beidio â meddwl am yr hyn sy’n llywio’n dyfodol.
Mae hyn yn fy arwain at siarad am anabledd yn y cyfryngau prif ffrwd. Gan fy mod yn fyfyriwr yn y drydedd flwyddyn, rwy’n ymchwilio ar hyn o bryd i fy nhraethawd hir ac rwy wedi dewis yn bwnc y ffordd y mae pobl anabl mewn ffilmiau’n cael eu cynrychioli. Ar ôl imi benderfynu ar bwnc fy nhraethawd hir dechreuais i feddwl yn syth am enghreifftiau o gymeriadau anabl mewn ffilmiau gan sylweddoli bod y rhan fwyaf o’r rhain yr oeddwn i’n gallu meddwl amdanyn nhw’n ddihirod. Ni waeth a ydyn ni’n meddwl am Mr Glass yn Unbreakable, Jaws yn The Spy Who Loved Me neu hyd yn oed Darth Vader yn Star Wars, ymddengys bod Hollywood yn hoff iawn o berson sy’n gorfforol anabl ac yn dal dig! Rwy’n sylweddoli bod yr enghreifftiau hyn yn ymddangos mewn ffilmiau y bydd rhai hwyrach yn ystyried eu bod yn ‘hen’ a’u bod eisiau enghraifft fwy diweddar, ac i’r perwyl hwnnw rwy’n cynnig Gazelle ichi. “Gazelle?”. Hwyrach eich bod yn meddwl, “y pethau hynny y bydd llewod yn rhedeg ar eu holau nhw?” Nid felly, annwyl ddarllenydd. Mewn gwirionedd, cymeriad yw Gazelle o’r ffilm hynod lwyddiannus Kingsman sy’n berson trychedig ac sydd wedi troi’i phrostheteg yn arfau. Y gwir amdani yw fy mod i’n cael trafferth beirniadu’r cymeriadau hyn gan fy mod i’n ystyried rhai ohonyn nhw’n eiconig ac i fod yn gwbl onest mae Gazelle yn gymeriad anhygoel! Fodd bynnag, mae’n anodd gen i beidio â meddwl bod rhai o’r cymeriadau hyn yn tueddu i fod â diffyg dyfnder. Nid wyf yn meddwl ei bod hi’n broblem bod gan gymeriad sy’n ddihiryn anabledd corfforol ond ni all hyn gynrychioli’r cwbl ydyn nhw. Gadewch inni gymryd Gazelle fel enghraifft. Yr hyn sy’n ei nodweddu fwyaf yw ei gallu (ardderchog, mae’n rhaid cyfaddef) i ddienyddio pobl gan ddefnyddio’i phrostheteg traed. Ond beth mae hi’n meddwl amdano? Pa rai yw’i theimladau hi? Beth yw taith ei chymeriad? Rwy’n ymwybodol bod ei chymeriad yn amrywiad ar y dihiryn taeog ac arwynebol sy’n ymddangos fel arfer yn y ffilmiau Bond ond nid yw hynny’n golygu bod yn rhaid iddi hi ei efelychu.
Y pwynt cyffredinol, debygwn i, yw bod angen inni weld mwy o gymeriadau sy’n anabl yn hytrach na chymeriadau anabl. O’m rhan i, byddwn i’n ei chael yn llawer mwy diddorol pe bai rhagor o gymeriadau anabl y gallwn ni eu deall ac uniaethu â nhw. Hwyrach eu bod yn fregus a’u bod yn brwydro yn erbyn hunandosturi fel yn fy achos innau ar adegau. Byddai hyn yn creu gwell dihiryn ac yn rhoi cipolwg i’r gynulleidfa ar y ffordd y mae’n meddwl. Er fy mod yn ymwybodol, wrth gwrs, bod rhai o’r cymeriadau y sonnir amdanyn nhw uchod yn rhai datblygedig a’u bod yn meddu ar dri dimensiwn, yn anaml rydyn ni’n cael gweld eu brwydr yng nghyd-destun anabledd. Nid ydyn ni byth yn gweld sut y bydd Darth Vader yn ymgodymu â’r gwaith cymhleth a beunyddiol o fyw y tu mewn i siwt robotig a hwyrach bod rheswm da dros hynny (meddyliwch, da chi, am lyfryn y cyfarwyddiadau!) ond pe baem ni ond yn gallu cael cipolwg arno y tu ôl i’r llenni, ac wrth hynny rwy’n golygu mwy na’i weld heb ei fwgwd, a hynny’n unig, gallen ni gysylltu â’r cymeriad ar lefel ddyfnach byth.
Mae’r Frwydr i gael rhagor o gynrychioliadau mwy cytbwys yn y cyfryngau yn adlewyrchu ac yn gysylltiedig â theimladau o hunandosturi yr wyf i a llawer o bobl anabl eraill wedi’u hwynebu. Os cawn ein cynrychioli nid yn unig i’r un graddau ond gyda’r un cymhlethdod a dyfnder â phobl abl o gorff, gallwn ni ddefnyddio hynny i ddyrchafu ac i ymrymuso’n hunain. Er ei bod yn bosibl nad popeth yw’r cynrychioliadau cyfredol yr hoffen ni iddyn nhw fod, mae’n rhaid inni gofio, fel yn achos yr adegau hynny o’r hunandosturi dybrytaf hyd yn oed, y bydd yr eiliad hon yn darfod a byddwn ni’n meddwl am bethau eraill. Dylai’n hymdrechion ganolbwyntio ar ddyfodol pan fydd pobl anabl yn cael eu hystyried yn sgîl eu doniau a’u personoliaeth a hefyd yn sgîl eu diffygion a’u ffaeleddau oherwydd, wedi’r cwbl, dim ond meidrolion ydym ni.
I’r sawl sy’n darllen hyn o lith, diolch am gymryd yr amser. Rwy’n ymadael cyn imi syrthio oddi ar fy mocs sebon!