Siwrne Ysgolion Busnes yng Nghymru

Rhagoriaeth mewn Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) mewn Addysg Uwch: Siwrne Ysgolion Busnes yng Nghymru
Llawlyfr yn trafod yr heriau sy’n wynebu Ysgolion Busnes ac yn tynnu sylw at arferion gorau mewn Ysgolion Busnes yng Nghymru.

Crynodeb
Mae’r llawlyfr hwn yn trafod datblygu tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) mewn Ysgolion Busnes yng Nghymru mewn ymateb i newidiadau yn y tirlun addysg uwch. Mae’n tynnu sylw at y sefyllfa bresennol a’r hyn sy’n newydd yn yr amgylchedd campws i fyfyrwyr a staff.

Cyflwynwn hefyd fframwaith ar gyfer EDI y gellir ei ddefnyddio fel sail i gael trafodaeth â sefydliadau er mwyn ystyried ei effaith ar fyfyrwyr a staff. Trafodir nifer o astudiaethau achos i ddangos sut y gellir gweithredu’r fframwaith hwn. Maen nhw’n dangos hefyd y gwaith da a wneir gan sefydliadau i wreiddio EDI yn eu hysgolion busnes ac i hyrwyddo cymunedau cynhwysiant.

Mae’r llawlyfr hwn yn ffrwyth Prosiect Gwella Cydweithredol QAA Cymru wedi’i gyllido gan CCAUC, oedd yn cynnwys trafodaethau a myfyrdodau parhaus rhwng y sefydliadau a fu’n cymryd rhan a dau weithdy a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Abertawe yn ystod Mai a Mehefin 2024.

Manylion cyswllt
Os hoffech dderbyn copi o'r llawlyfr hwn, e-bostiwch Alison Llewelyn, Swyddog EDI a.llewelyn@swansea.ac.uk

EDI Excellence within Higher Education Handbook 2024-Wel - …