Croeso i ffiseg yn Abertawe
Croeso i’n canllaw cyflym i astudio Ffiseg yn y brifysgol. Gallwch wylio fideos gan ein staff a mynd ar daith o’r adran. Gallwch glywed yr hyn sydd gan ein myfyrwyr i’w ddweud a sgwrsio â nhw drwy Unibuddy.
Os nad ydych chi wedi ymweld â Phrifysgol Abertawe neu gyflwyno cais o’r blaen a hoffech gael rhagor o wybodaeth am Ffiseg, cadwch le ar ein Ein Diwrnodau Agored - Rhithwir ac Ar y Campws.
Pa Yrfaoedd Allai Fod Ar Gael I Mi Ar Ôl I Mi Raddio?
Mae meithrin sgiliau craidd a phrofiad bywyd gwerthfawr tra byddwch yn y Brifysgol yn bwysicach nag erioed. Bydd astudio Ffiseg ym Mhrifysgol Abertawe yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o’r cyfreithiau sylfaenol sy’n tanategu’r byd naturiol cyfan – o fecaneg gwantwm, sy’n disgrifio cwarciau a gliwonau, i ddamcaniaeth disgyrchiant Einstein, sy’n berthnasol i’r bydysawd ar raddfeydd cosmolegol.
Mae llawer o’n cyrsiau’n cynnig cyfle i dreulio blwyddyn mewn diwydiant neu dramor – sy’n rhoi mantais ychwanegol i chi mewn marchnad swyddi gystadleuol. Rydym yn eich cefnogi i ddod o hyd i leoliad gwaith addas ac mae gennym gysylltiadau â phrifysgolion ledled y byd.
DATRYS PROBLEMAU SAFON UWCH
Gwyliwch ein cyfres o fideos byr sy’n dangos myfyrwyr Ffiseg ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe’n datrys problemau Safon Uwch.