Mae Arloesedd Cyfrifol (AC) wrth wraidd y Ganolfan Hyfforddiant Deothurol, i sicrhau bod ymchwil y ganolfan yn creu gwerth i'r gymdeithas mewn modd moesol a chyfrifol. Mae hyn yn unol â'n hagwedd 'pobl yn gyntaf' i arloesedd gwyddonol, yn gwneud i dechnolegau newydd weithio i'r gymdeithas heb achosi mwy o broblemau nag y maent yn eu datrys.
Mae canolbwyntio ar arloesedd cyfrifol yn ein galluogi ni i wella o ran rhagweld problemau, a chymryd i ystyriaeth y materion cymdeithasol, moesegol ac amgylcheddol ehangach, a gallu creu systemau hyblyg ac addasol i ymdrin â'r canlyniadau anfwriadol hyn.
Drwy ystyried gwerth ein hymchwil mewn modd holistig, gallwn weithio i gyflawni buddion cymdeithasol, moesegol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd.
Mae AC yn agwedd ar ein holl waith yn y ganolfan:
- unioni canlyniadau ymchwil gyda disgwyliadau a gwerthoedd cymdeithas
- cynnwys grwpiau rhanddeiliaid perthnasol a sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb
- ymgysylltu â'r cyhoedd, gyda ffocws ar addysg
- cynnal moeseg dda ac arferion y llywodraeth drwy esblygu strategaethau AC
Mae goruchwylwyr academaidd yn gweithio'n agos â myfyrwyr i sicrhau bod AC yn cael ei fewnosod ym mhrosiectau ymchwil PhD - wrth wraidd bob cwestiwn ymchwil.
Rydym hefyd yn hyrwyddo ein dull gweithredu 'pobl yn gyntaf' gyda phartneriaid y diwydiant a digwyddiadau ymgysylltu, cynnwys rhanddeiliaid (nid yn unig partneriaid diwydiannol) o'r cychwyn cyntaf a gwrando ar eu pryderon/safbwyntiau.
Drwy siapio a choethi ein strategaethau a pholisïau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad, rydym yn ymroddedig i hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth gwell ymhlith ein carfan a chenedlaethau gwyddonwyr y dyfodol.