Bydd y prosiect yn ceisio defnyddio data delwedd wrth hyfforddi model at ddibenion adnabod yn lleol yn nhermau arfordir. Bydd y prosiect yn ceisio ateb y cwestiynau a ellir casglu lleoliad synhwyrydd yn ddibynadwy yn defnyddio set ddata o bwyntiau y sylwyd arnynt a lleoliadau camera. Bydd y prosiect hefyd yn ceisio ateb y cwestiwn a ellir hidlo arsylwad o'r fath yn bwyntiau llawn gwybodaeth allweddol, er mwyn lleihau effaith delweddu swnllyd a chyffredinoli ymhellach yr allbynnau i'r defnyddiwr. Bydd dulliau dysgu gweithredol yn cael eu harchwilio hefyd i adnabod y budd o ryngweithio â'r defnyddiwr ar gyfer problemau sy'n cynnwys egluro gwybodaeth yn seiliedig ar ddelwedd.
Yn gyntaf bydd y prosiect yn gweithredu system ar gyfer casglu prif leoliadau tebygol llong, drwy ddefnyddio sampl y sylwyd arni a model wedi'i hyfforddi ar set ddata yn cynnwys arsylwadau o'r arfordir. Yn gyntaf bydd y prosiect yn defnyddio delweddau y sylwyd arnynt i hyfforddi model i dynnu nodweddion, gan ymgorffori'r arsylwadau i le y gellir ei ymholi. Bydd elfen ddilynol o'r gwaith yna'n casglu'r lleoliadau positif posib yn defnyddio sampl ymholiad. Yna bydd y prosiect yn defnyddio modelau ymgorffori i gyffredinoli'r arsylwadau a chynhyrchu dehongliad o'r data y sylwyd arno sy'n fwy sythweledol i bobl, yn benodol drwy ddefnyddio delweddu amlygrwydd yn seiliedig ar ddelwedd.
Daw newydd-deb y prosiect o ddatblygu modelau sy'n cyfuno casglu gwybodaeth gyda dysgu gweithredol. Mae datblygu modelau sy'n gallu sbarduno gwybodaeth leol a byd-eang i roi dehongliad syml i ddefnyddwyr o'u harsylwad a pham mae'r model wedi rhoi rhagfynegiad penodol hefyd yn newyddbeth.