DA Rhyngweithiol sy'n Canolbwyntio ar Bobl - Diffiniad a Heriau Ymchwil
Dydd Mercher 28 Ebrill 2021
Crynodeb: Mae Deallusrwydd Artiffisial wedi dod yn air allweddol yn ystod y degawd diwethaf. Mae'r datblygiadau hyd yn hyn wedi bod yn dechnegol gan fwyaf, a dim ond yn ddiweddar ydym wedi gweld newid tuag at ganolbwyntio ar agweddau dynol ar ddeallusrwydd artiffisial. Yn benodol, mae'r syniad o wneud deallusrwydd artiffisial yn rhyngweithiol ac esboniadwy yn y canol, sy'n safbwynt cul iawn. Yn ystod y sgwrs, byddaf yn awgrymu diffiniad ar gyfer "Deallusrwydd Artiffisial Rhyngweithiol sy'n Canolbwyntio ar Bobl" ac yn amlinellu'r nodweddion sy'n ofynnol ar gyfer dechrau trafodaeth am nodau ymchwil deallusrwydd artiffisial a'r nodweddion y dylem eu disgwyl gan systemau'r dyfodol. Mae'n hanfodol gallu nodi pwy fydd yn elwa o system neu wasanaeth. Mae aros mewn rheolaeth yn hanfodol i fodau dynol deimlo'n ddiogel a chael ymreolaeth. Byddaf yn trafod heriau allweddol rheolaeth a deall systemau yn seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial ac yn dangos sut mae lefelau o haniaethau a gronynnau o reolaeth yn ddatrysiad posib. Rwy'n dadlau ymhellach fod deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol yn debyg iawn i ddeunyddiau crai (megis carreg, haearn, neu efydd). Mae cyfnodau hanesyddol wedi'u henwi ar ôl y deunyddiau hyn gan eu bod wedi newid yr hyn all pobl ei adeiladu a pha offer all pobl eu creu. O ganlyniad, rwy'n dadlau yn oes deallusrwydd artiffisial fod angen i ni newid y ffocws oddi wrth y deunydd (e.e. yr algorithmau deallusrwydd artiffisial, gan y bydd digonedd o ddeunydd), tuag at yr offer a alluogir ac sy'n fuddiol i bobl. Mae'n amlwg y bydd deallusrwydd artiffisial yn caniatáu awtomeiddio tasgau cyffredin y meddwl a bydd yn ymestyn ein gallu i weld pethau a rhagweld digwyddiadau. I mi, y cwestiwn canolog yw sut mae creu'r offer yma ar gyfer ymhelaethu ar y meddwl dynol, heb danseilio gwerthoedd dynol.
Bywgraffiad Byr: Athro yn y Cyfryngau Hollbresennol sy'n Canolbwyntio ar Bobl yw Albrecht Schmidt yn yr adran gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Ludwig Maximilian Munich yn yr Almaen. Astudiodd Gyfrifiadureg yn Ulm a Manceinion a derbyniodd PhD o Brifysgol Caerhirfryn yn y DU yn 2003. Yn y gorffennol, mae wedi dal sawl swydd academaidd mewn prifysgolion gwahanol yn cynnwys Stuttgart, Caergrawnt, Duisburg-Essen, a Bonn ac mae hefyd wedi gweithio fel ymchwilydd yn Sefydliad Fraunhofer ar gyfer Dadansoddi Deallusol a Systemau Gwybodaeth ac yn Microsoft Research yng Nghaergrawnt. Yn ei ymchwil, mae'n ymchwilio i gymhlethdod cynhenid rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron mewn amgylcheddau cyfrifiadura hollbresennol, yn benodol o safbwynt y cynnydd mewn deallusrwydd cyfrifiadurol ac ymreolaeth systemau. Mae Albrecht wedi cyfrannu'n weithredol at y drafodaeth wyddonol ynglŷn â rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron drwy ddatblygu, cymhwyso, ac astudio prototeipiau gweithredol o systemau rhyngweithiol a thechnolegau rhyngwyneb mewn sefyllfaoedd go iawn, gwahanol. Aeth ei waith arbrofol cynnar i'r afael â'r defnydd o synwyryddion amrywiol i adnabod sefyllfaoedd a rhyngweithiadau, gan ddylanwadu ar ein dealltwriaeth o ymwybyddiaeth gyd-destunol a chyfrifiadura lleoledig. Cynigodd y cysyniad o ryngweithio ymhlyg rhwng pobl a chyfrifiaduron. Dros y blynyddoedd, bu'n gweithio ar ryngwynebau defnyddwyr modurol, rhyngweithio diriaethol, systemau arddangos cyhoeddus rhyngweithiol, rhyngweithio â sgriniau mawr eglur iawn, a rhyngwynebau ffisiolegol. Yn fwy diweddar, mae'n canolbwyntio ar sut all technoleg gwybodaeth ddarparu cymorth canfyddiadol a gwybyddol i ymhelaethu ar y meddwl dynol. I ymchwilio i hyn ymhellach, derbyniodd grant ERC yn 2016. Mae Albrecht wedi cyd-gadeirio sawl cynhadledd SIGCHI; mae ar fwrdd golygyddol TOCHI ACM, yn golygu fforwm mewn rhyngweithiadau ACM a cholofn am estyniadau dynol yn IEEE Pervasive. Yn y gorffennol bu'n golygu colofn am dechnolegau rhyngweithiol yn IEEE Computer. Cyd-sefydlwyd cynadleddau ACM ar ryngweithio diriaethol a mewnblanedig yn 2007 ac ar ryngwynebau defnyddwyr modurol yn 2010 ganddo. Yn 2018, derbyniwyd Albrecht i Academi SIGHCH ACM ac yn 2020, cafodd ei ethol yn aelod o Leopoldina, academi'r Almaen ar gyfer gwyddorau naturiol.