Mannau Creadigol: Cefnogi Ymgysylltiad ar gyfer y Celfyddydau ac Addysg yn Gath
Dydd Mercher 23 Chwefror
Crynodeb: Mae Gather.Town yn fyd rhithiol ar-lein lle gall afatars cyfagos gyfathrebu drwy nodwedd sgwrsio sy’n cwmpasu ystod pellter penodol. Gellir defnyddio’r llwyfan yn lle systemau fideo-gynadledda traddodiadol ar gyfer cyfarfodydd a gweithgareddau addysg, ac mae ganddo nifer o nodweddion swyddogaethol amrywiol sy’n cynnig cyfleoedd i ymgysylltu’n gymdeithasol yn ystod sefyllfaoedd sy’n galw am ymbellhau cymdeithasol mewn perthynas â phandemig. Rwyf wedi addysgu nifer o ddosbarthiadau mawr, wedi cynnal cynadleddau ac oriel gelf ryngweithiol yn Gather.Town, yn ogystal â chynnal astudiaethau er mwyn deall yr effaith ar fyfyrwyr ac artistiaid. Yn y sgwrs hon, a fydd yn cael ei chynnal mewn gofod ar Gather.Town, byddaf yn cyflwyno'r llwyfan i fynychwyr, ac yn cynnig taith fer o ddosbarth GT ac oriel gelf GT. Byddaf wedyn yn cyflwyno canlyniadau rhai astudiaethau rwyf wedi’u cynnal gyda chydweithwyr i archwilio profiad artistiaid a myfyrwyr o ddefnyddio’r llwyfan, ac yn cyflwyno fy myfyrdodau ar gynllunio mannau ar gyfer ymgysylltiad creadigol.
I fynychu/cymryd rhan: ymunwch â'r gofod Gather.Town gan ddefnyddio’r ddolen sydd wedi’i chynnwys yma. Defnyddiwch Chrome neu Firefox ar gyfrifiadur neu liniadur (nid yw Gather.Town yn gweithio’n dda iawn ar ddyfeisiau symudol). Pan fyddwch yn ymuno am y tro cyntaf, bydd tiwtorial byr, 3 munud o hyd, yn eich tywys drwy hanfodion llywio’r llwyfan gyda’ch afatar. Byddaf yn eich tywys drwy nodweddion eraill Gather.Town fel rhan o’r cyflwyniad. Nodyn am hygyrchedd: Nid yw Gather.Town yn medru hwyluso sgrin-ddarllenydd, ond mae datrysiadau eraill y gellir eu defnyddio ar gyfer defnyddwyr sydd â nam ar eu golwg. Cysylltwch â mi ymlaen llaw os hoffech chi ymuno â’r cyflwyniad, ond mae angen cymorth arnoch chi gyda hygyrchedd.
Bywgraffiad: Mae Dr. Celine Latulipe yn Athro Rhyngweithiadau Dynol-Cyfrifiadurol (HCI) yn Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Manitoba, Canada Mae ei hymchwil yn cwmpasu tri phrif faes: addysg gyfrifiadureg, heneiddio a thechnoleg, a’r croestoriad rhwng technoleg a chreadigrwydd. Yn y maes addysg CS, mae ei hymchwil yn cynnwys datblygu a gwerthuso addysgeg ac amgylchiadau dysgu arloesol, gyda diddordeb penodol mewn dysgu sut i gefnogi poblogaethau nad ydynt wedi’u cefnogi’n ddigonol, i ddysgu cyfrifiadureg. Yng nghyd-destun heneiddio, mae Dr. Latulipe yn cynnal ymchwil i archwilio sut mae oedolion hŷn a’u gofalwyr yn ymgysylltu â thechnoleg, a sut i ddatblygu systemau ac offer i gefnogi model partneriaeth ar gyfer bywyd digidol oedolion hŷn. Yn y maes creadigrwydd, mae Dr. Latulipe yn astudio datblygiad a gwerthusiad technegau rhyngweithio newydd ar gyfer y celfyddydau, mesuriadau ac offer cymorth creadigol, ac yn astudio sut mae pobl yn dysgu ac yn defnyddio offer meddalwedd cymhleth i gefnogi ymdrechion creadigol.