Dyrchafael a Hapteg Uwchsain: Dyfodol Rhyngweithio rhwng Dyn a Chyfrifiadur?
Dydd Mercher 6th Ebrill 2022
Crynodeb: Mae Uwchsain yn cynnig cyfleoedd newydd sbon i ryngweithio o fewn rhyngwynebau defnyddwyr. Yn y sgwrs hon, byddaf yn disgrifio’r dull newydd hwn a’r hyn mae’n ei gynnig i ryngweithio rhwng dyn a chyfrifiadur (HCI). Drwy ddefnyddio uchelseinyddion safonol, gallwn greu meysydd sain sy’n cynhyrchu adborth haptig yn yr awyr, heb i’r defnyddiwr orfod dal neu gyffwrdd yn unrhyw beth. Gallwn reoli safle a gwead yr adborth hwn mewn amser real. Mae’r hapteg ‘yn yr awyr’ yn galluogi technegau rhyngweithio newydd ar gyfer dyfeisiau. Byddaf yn rhoi enghreifftiau o sut allwn ei ddefnyddio ar gyfer rheolaethau rhithiol a sut y gellir dylunio rhyngweithiadau newydd.
Posibilrwydd cyffrous arall yw defnyddio uwchsain i ddyrchafael gronynnau bychain i greu picseli ‘ffisegol’ yn yr awyr o flaen y defnyddiwr. Gellir rheoli’r picseli ffisegol hyn yn fanwl er mwyn dyrchafael siapiau a gwrthrychau 3D, y gellir eu rheoli yn ddynamig. Mae hyn yn cyflwyno sawl cyfle newydd ar gyfer arddangos data a modelau 3D. Yn y sgwrs hon, byddaf yn disgrifio sut i wneud y math newydd sbon hwn o arddangos yn bosibl a rhai o’r problemau diddorol sy’n codi wrth geisio dewis a thrin y gwrthrychau sy’n cael eu dyrchafael.
Mae Stephen Brewster yn Athro Rhyngweithiad rhwng Bodau Dynol a Chyfrifiaduron yn yr Ysgol Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Glasgow. Enillodd ei PhD mewn dylunio rhyngwyneb clywedol ym Mhrifysgol Efrog. Yn Glasgow, mae’n arwain y Grŵp Rhyngweithio Aml-ddull, sy’n weithredol iawn ac sydd ag enw da cryf yn rhyngwladol yn y maes rhyngweithiad rhwng bodau dynol a chyfrifiaduron (http://mig.dcs.gla.ac.uk). Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ryngweithiad aml-ddull rhwng bodau dynol a chyfrifiaduron, neu ddefnyddio sawl moddolrwydd synhwyraidd a mecanweithiau rheoli (yn arbennig agweddau sain, cyffyrddiadol ac ystumiau) i greu rhyngweithiad cyfoethog, naturiol rhwng bodau dynol a chyfrifiaduron. Mae gan ei waith ffocws arbrofol cryf, gan gymhwyso ymchwil canfyddiadol i sefyllfaoedd ymarferol. Mae ffocws hirdymor wedi bod ar ryngweithiad symudol a sut allwn ddylunio yn well rhyngwynebau defnyddwyr ar gyfer defnyddwyr ar droed. Mae meysydd diddordeb eraill yn cynnwys realiti rhithwir/realiti artiffisial, dyfeisiau gwisgadwy a rhyngweithio yn y car. Arloesodd yr astudiaeth ar agwedd glywedol heb fod yn lleferydd a rhyngweithiad cyffyrddiadol ar gyfer dyfeisiau symudol gyda’r gwaith yn dechrau yn y 1990au.