‘Can interactive entertainment change children’s perceptions of maggot therapy?’ That was the question Dr Sean Walton asked, and using CHERISH-DE funding, he created the "Love A Maggot" educational game which will be the centre piece of a teacher pack aligned with the new Welsh Science Curriculum.
The Swansea University ‘Love a Maggot’ campaign, led by Professor Yamni Nigam, raises awareness of the use of living maggots as a clinical treatment to help clear and heal chronic wounds.
Meddai Sean: “Er ei fod yn ffordd effeithiol dros ben o drin clwyfau, mae llawer o gleifion yn gwrthod triniaeth cynrhon am nad ydynt yn hoffi’r syniad. Ymddygiad a ddysgir yw’r agwedd gysetlyd yma mewn gwirionedd, a chyn bod plant yn 12 neu’n 13 maen nhw’n dal yn agored i’r defnydd meddygol o gynrhon. Trwy addysgu plant am therapi cynrhon gan ddefnyddio’r gêm yma, rydym yn gobeithio y byddan nhw yn eu tro yn pasio’r wybodaeth yma i’w rhieni a’u teidiau a’u neiniau.”
Gan ddefnyddio cyllid sbarduno o £10 mil, datblygodd Sean brototeip o’r gêm gynrhon, a arweiniodd at sgyrsiau gyda Llywodraeth Cymru ynghylch cwricwlwm gwyddoniaeth ysgolion. Galluogodd cyllid sbarduno pellach iddo weithio gyda Stephen Mitchel, myfyriwr Meistr, i ddatblygu’r gêm loveamaggot.com <https://iss-cms-app.swan.ac.uk/terminalfour/page/loveamaggot.com>, sydd ers hynny wedi cael ei harddangos mewn ysgolion ledled Cymru ac i Lywodraeth Cymru. Cafodd yr ymgyrch ‘Caru Cynrhon’ sylw ar y cyfryngau cenedlaethol hefyd pan ddefnyddiwyd therapi cynrhon mewn stori yng nghyfres ‘Casualty’ y BBC.
Yn ogystal â hyrwyddo’r defnydd o therapi cynrhon, mae Sean a Stephen wrthi’n defnyddio’r wybodaeth o’r prosiect i hybu eu hymchwil i ddylunio gemau addysgol.