"Datblygasom adnodd i fapio strategaethau ymdopi y gellir eu defnyddio i asesu newid yn dilyn ymyrraeth feddygol a rhagweld achosion problemus o 'gyfnewid' strategaethau (e.e. bwyta i alcohol)"
Roedd hwn yn brosiect rhyng-ddisgyblaethol ar y cyd yn cynnwys Dr. Laura Wilkinson (Prif Ymchwilydd; Prifysgol Abertawe), Tanisha Douglas (Ymgeisydd PhD, Prifysgol Abertawe), yr Athro Jeff Stephens (Prifysgol Abertawe ac ABMU), Mr. Jonathan Barry, (Llawfeddyg laparosgopig bariatrig ymgynghorol yn Sefydliad Llawdriniaeth Gordewdra a Metabolaidd Cymru, Ysbyty Treforys, Abertawe), Dr. Angela Rowe (Prifysgol Bryste), Dr. Martin Thirkettle (Prifysgol Sheffield Hallam), yr Athro Michelle Lee (Prifysgol Abertawe) a Dr. Menna Price (Prifysgol Abertawe).
Mae gennym ni i gyd ffyrdd gwahanol o ymdrin â straen a theimladau negyddol. Yn anffodus, gall rhai o'r strategaethau ymdopi hyn gael effaith niweidiol ar ein hiechyd. Felly, bydd nifer ohonom yn ceisio gwneud newid; gall hyn fod yn rhoi'r gorau i ysmygu, yfed llai o alcohol neu fwyta llai o fwyd sothach.
Wedi dweud hyn, mae digwyddiadau sy'n peri straen yn dal i ddigwydd ac mae angen i ni ymdopi â hyn. Nid ydym eisiau i'r bobl ddychwelyd at y strategaeth ymdopi y maent wedi rhoi'r gorau i'w defnyddio/yn ei defnyddio llai neu ddod o hyd i ffordd newydd o ymdopi sydd hefyd yn ddrwg i'ch iechyd.
Rydym wedi gweithio i greu adnodd (Adnodd Asesu Strategaethau Ymdopi; CSAT) i helpu pobl (a'r clinigwyr sy'n eu cefnogi nhw) i ddeall sut maent yn ymdopi gyda straen a'r emosiwn negyddol. Mae'r adnodd yn mapio eu hymddygiadau ac yn adnabod eu mecanweithiau ymdopi (megis bwyta fel ffordd o ymdopi â straen). Mae'n ein caniatáu ni i edrych ar strategaeth ymdopi ar y cyfan, yn hytrach na chanolbwyntio ar un neu ddau ymddygiad yn unig. Wrth wneud hynny, ein gobaith yw mabwysiadu ffyrdd mwy cynhyrchiol ac iachach o ymdopi fel nad yw ymyriadau gwella iechyd yn cael eu tanseilio. Yn y prosiect hwn, ein prif ffocws oedd deall ymddygiadau ymdopi ymhlith cleifion sy'n cael llawdriniaeth fariatrig (colli pwysau).
Hwylusodd CHERISH waith datblygu'r adnodd hwn sydd wedi'i godio yn Javascript ac yn cael ei gynnal ar y llwyfan Qualtrics. Cynhaliodd y tîm dri grŵp ffocws - 1 gyda'r cyhoedd, 1 gyda chleifion yn cael llawdriniaeth fariatrig ac 1 gydag arbenigwyr o dimau clinigol a fyddai'n defnyddio'r adnodd. Arweiniodd trafodaethau trylwyr dilynol at welliannau i'r adnodd, megis gwneud y geirio yn fwy cyfeillgar i'r defnyddiwr, gwneud yr adnodd yn fwy sythweledol etc. Roedd y cyllid hefyd yn cefnogi astudiaeth ddilysu - casglwyd data gan 463 o gyfranogwyr, gyda dilyniad gan 240 o gyfranogwyr bythefnos yn ddiweddarach. Mae'r canlyniadau yn cael eu dadansoddi nawr i sicrhau eu bod yn cysylltu â'r cysyniadau bwriadedig (h.y., ymdopi; dilysrwydd cydgyfeiriol).
"Yn fy marn i mae'r adnodd CSAT wedi bod yn ddefnyddiol yn glinigol wrth weithio gyda chleifion mewn gwasanaeth rheoli pwysau lefel tri. Mae'n glir ac yn rhwydd i'w ddefnyddio. Mae'n addysgiadol yn glinigol ac wedi cynorthwyo cleifion i gydnabod y berthynas rhwng defnyddio bwyd i ymdopi â thrallod emosiynol. Mae hefyd wedi bod yn ddefnyddiol wrth bwysleisio'r nifer prin o strategaethau sydd gan gleifion i ymdopi â'u hemosiwn yn hytrach na bwyd ac mae hyn wedi helpu i arwain cyfeiriad gwaith y dyfodol." Dr. Sinead Singh, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.