Mae'r prosiect yn gweithio tuag at fewnosod fersiwn wedi'i ddigido o'r system Adwaith Niweidiol i Gyffuriau (ADRe), sydd eisoes yn cael ei defnyddio ac sy'n caniatáu i arbenigwyr proffesiynol arolygu a thrin adweithiau niweidiol i feddyginiaethau iechyd meddwl ar bresgripsiwn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Drwy ychwanegu ADRe at system gofnodion electronig y GIG, ein gobaith yw ymestyn cyrhaeddiad y pecyn cymorth diagnostig llwyddiannus hwn. Yn sgil defnyddio ADRe gyda 10 o gleifion, y cwbl yn cael meddyginiaethau iechyd meddwl a gofal yn y gymuned, anfonwyd llythyrau at feddygon teulu perthnasol 8 o gleifion a chydlynwyr gofal 4 o gleifion i bwysleisio'r risgiau a gafodd eu hadnabod yn y broses. Drwy adnabod digwyddiadau niweidiol cyn iddynt fod angen sylw mewn ysbyty, llwyddodd ADRe i atal niwed difrifol a lleihau costau i'r GIG. Bu i'r prawf bwysleisio'r angen am nodweddion newydd a llwybrau datblygu posibl i systemau electronig y GIG.
"Roedd yn syfrdanol y nifer o symptomau corfforol a gafodd ein cleifion a, heb y prosiect hwn, gallai'r symptomau fod wedi parhau heb gael sylw, eu dilysu nac eu trin".
https://www.swansea.ac.uk/adre/
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon i ddarlun gwybodaeth: System ADRe